Cyhoeddiadau
Ni all Cyngor Sir a Dinas Abertawe warantu cywirdeb yr wybodaeth ar y wefan hon, ac ni fydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw wall neu anwiredd, atebolrwydd dros golled, siom, esgeulustod neu niwed arall a achosir gan ddibyniaeth ar yr wybodaeth yn y llyfryn hwn oni bai ei fod wedi’i achosi gan weithred esgeulus neu hepgoriad y cyngor.
Materion sy’n ymwneud â firysau
Mae’r cyngor yn gwneud pob ymdrech i wirio ffeiliau sydd ar gael i’w lawrlwytho ar y safle hwn am firysau. Nid yw’r cyngor yn gallu derbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a all ddigwydd o ganlyniad i ddefnyddio deunydd a lawrlwythwyd. Rydym yn argymell y dylai defnyddwyr ailwirio’r holl ddeunydd a lawrlwythir â’u meddalwedd gwirio firysau eu hunain.
Newidiadau i’r Wefan
Mae’r defnyddiwr yn cydnabod ac yn derbyn y bydd Joio Bae Abertawe o bryd i’w gilydd yn newid unrhyw agwedd ar y wefan neu unrhyw un o’r gwasanaethau neu gynnyrch a ddarperir drwy’r wefan yr ystyrir yn ddilys, heb unrhyw hysbysiad i’r defnyddiwr. Hefyd, gall Joio Bae Abertawe addasu’r amodau a thelerau ar unrhyw adeg heb rybudd. Mae’r defnyddiwr yn derbyn na fydd ganddo unrhyw hawl dor cytundeb neu fel arall mewn perthynas ag unrhyw newid o’r fath.
Hawlfraint
Hawlfraint © Dinas a Sir Abertawe
Diogelir y tudalennau hyn gan hawlfraint oni nodir yn wahanol. Gwaherddir atgynhyrchu unrhyw ran o’r deunydd hwn heb ganiatâd ysgrifenedig Dinas a Sir Abertawe. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn berthnasol ar gyfer cynnwys y wefan hon. Gall hawliau eiddo deallusol peth o’r deunydd hwn fod yn nwylo awduron unigol. Ni ellir defnyddio logo Dinas a Sir Abertawe mewn unrhyw ffurf hen ganiatâd ysgrifenedig.
Ymwadiad
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud pob ymdrech i ddarparu gwybodaeth gywir a chyfamserol. Fodd bynnag, ni all Cyngor Dinas a Sir Abertawe dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros golled, niwed, esgeulustod neu anghyfleustra o ganlyniad i ddefnyddio’r wefan hon ac unrhyw asedau y gellir eu lawrlwytho neu asedau eraill sy’n gysylltiedig â hi. Mewn rhai achosion; efallai bydd cynnwys ar unrhyw dudalennau lle bydd yr URL wedi’i ragddodi gan www.enjoyswanseabay.com/cy/digwyddiadau-yn-abertawe wedi cael ei lanlwytho gan drydydd parti.
Gall ein tudalennau gwe gynnig dolenni i wefannau eraill pan yn briodol, a hynny’n ddidwyll. Nid yw Dinas a Sir Abertawe’n gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol ac ni fydd yn derbyn atebolrwydd am arddangos gwybodaeth anghywir neu am unrhyw ddigwyddiadau niweidiol a allai godi ar ôl cysylltu â’r safleoedd hynny. Rydych yn cydnabod na fyddwn bob amser yn nodi gwasanaethau a thelir, cynnwys a noddwyd neu gyfathrebiadau masnachol.
Pecynnau Partner Marchnata Joio Bae Abertawe
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n gweithio i hyrwyddo digwyddiadau perthnasol a busnesau sydd â swyddfeydd rhestredig yn Abertawe drwy gynnig Pecynnau Partner. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn bartner, darllenwch yr wybodaeth ganlynol.
Digwyddiadau
Digwyddiadau a gynhelir o fewn Ardal Farchnata Bae Abertawe (gan gynnwys Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot) yn unig fydd yn gymwys i gael eu cyhoeddi ar joiobaeabertawe.com
Dim ond digwyddiadau a bernir yn berthnasol i gyhoedd Bae Abertawe gan Ddinas a Sir Abertawe fydd yn gymwys i gael eu cyhoeddi ar joiobaeabertawe.com.
Mae gan Ddinas a Sir Abertawe, yn ôl ei ddisgresiwn, yr hawl i wrthod cyhoeddi unrhyw ddigwyddiad ar joiobaeabertawe.com.
Amodau a Thelerau Parcio Sioe Awyr Cymru
Amodau a Thelerau Stadiwm Liberty
Amodau a Thelerau a Pholisi Tywydd Gwlyb Theatr Awyr Agored
Amodau a Thelerau Neuadd Brangwyn
Amodau a Thelerau Arddangosfa Tân Gwyllt Fwyaf Abertawe
Amodau a Thelerau Cyffredinol Parcio ar gyfer Digwyddiadau/Parcio a Theithio
Amodau a Thelerau Abertawe Plantasia
Amodau a Thelerau Proms yn y Park y BBC
Amodau a Thelerau Man Engine Cymru
Amodau a Thelrau Y Penwythnos mwyaf gan y BBC