Rhywbeth arall i Abertawe ymfalchïo ynddo!
Mae ateg pen hynafol o’r Aifft a gedwir yn Amgueddfa Abertawe wedi cyrraedd ein sgriniau teledu yn un o anturiaethau Charlotte ac Elliot yn y gyfres CBeebies newydd, ‘Teacup Travels’.
Dyma gefndir y stori…
Pryd bynnag bydd Charlotte neu Elliot yn ymweld â’u Hen Fodryb Lizzie, bydd bob amser stori a dysgled o de’n aros amdanynt.Mae gan Lizzie y casgliad mwyaf anghyffredin;mae pob cwpan yn unigryw, pob un â llun o arteffact hynafol,rhywbeth i’w hatgoffa o anturiaeth amser maith yn ôl.Mae hi mor dda wrth adrodd y straeon hynny, gyda disgrifiadau mor fyw, fel nad yw Charlotte ac Elliot yn gallu osgoi dychmygu eu bod nhw eu hunain rhywle amser maith yn ôl ac yn bell i ffwrdd, yn hen esgidiau tolciog Hen Fodryb Lizzie.Mae pob eitem wedi’i hysbyrydoli gan arteffact amgueddfa go iawn.
Y Casgliad Eifftaidd yn Abertawe
Darganfuwyd yr ateg pen pren sydd i’w weld yn Amgueddfa Abertawe mewn beddrod yn Thebae ac mae’n dyddio’n ôl i oddeutu 1400 CC. Gosodwyd ategion pen yn agos at ben y mymi yn y beddrod i amddiffyn y pen rhag cael ei dorri o’r corff ar ôl marwolaeth ac ni fu fawr o newid i’r ffurf ar hyd yr oesoedd. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu gwneud o bren ond roedd rhai wedi’u gwneud o garreg. Math o obennydd oeddent i gynnal y pen. Roedd cysylltiad symbolaidd rhwng yr ateg pen a’r haul a oedd, fel y pen, yn gostwng gyda’r nos ac yn codi gyda’r dydd.
Gallwch chi weld yr ateg pen hwn ac arteffactau Eifftaidd eraill, gan gynnwys y mymi sydd wedi’i adnabod fel Hor (offeiriad dilladu ac ysgrifennydd i’r duw Atum), yn Oriel yr Aifft Amgueddfa Abertawe.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English