Gwrandewch! Rydym wedi cynhyrchu taith sain ddwyieithog a fydd yn trafod rhai o’r pethau byddwch chi’n eu gweld wrth deithio ar Drên Bach Bae Abertawe.
Bydd y rhestr chwarae naw trac, sydd ar gael ar Soundcloud, yn cyflwyno rhai o’r mannau o ddiddordeb y byddwch yn eu gweld yn ystod taith ddwy filltir y trên bach rhwng Lido Blackpill a Gerddi Southend, y Mwmbwls.
Mae’r trac cyntaf yn croesawu’r gwrandäwr ac yn cyflwyno’r trên bach a adeiladwyd gan Ditto Trains o ogledd yr Eidal. Mae’r ail drac yn rhoi hanes cryno o drên y Mwmbwls.
Mae traciau eraill yn trafod Amy Dillwyn, gan fod Trên Bach y Bae yn teithio heibio plac glas coffaol ger y West Cross Inn, Gerddi Clun, Castell Ystumllwynarth a Phier a Bad Achub y Mwmbwls.
Mae trefn y rhestr chwarae yn dechrau o Blackpill i Southend. Os ydych chi’n dechrau’ch taith yn Southend, rydym yn awgrymu eich bod yn gwrando ar Drac 1, “Croeso”, cyn gwrando ar Drac 9, “Bad Achub y Mwmbwls”, ac yna’n gwrando ar y gweddill i’r gwrthwyneb.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau ac rydym yn croesawu’ch adborth. Mwynhewch y daith!