Mae Cyngor Abertawe’n trefnu ac yn cynnal ystod amrywiol o ddigwyddiadau arobryn sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r rhaglen ddigwyddiadau flynyddol hon yn dod â chymunedau at ei gilydd, yn helpu i gynnal busnesau lleol, yn darparu hwb ariannol sylweddol i’r economi leol ac yn hyrwyddo Abertawe fel lle arbennig i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
Er mwyn sicrhau cynaladwyedd y rhaglen arwyddocaol hon o ddigwyddiadau blynyddol, rydym yn ystyried gweithio gyda busnesau a sefydliadau i sicrhau partneriaeth a fydd yn fuddiol i bawb.
Rydym yn gallu cynnig ystod amrywiol o becynnau partneriaeth cyffrous ac unigryw fel bod brand eich busnes/sefydliad yn derbyn y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu, gan eich helpu i gyflawni’ch amcanion busnes.
Mae gennym amrywiaeth o becynnau sy’n addas ar gyfer pob cyllideb; cânt eu teilwra i fodloni’ch gofynion a gall fod yn bwrpasol ar gyfer eich cwmni.
Rydym hefyd yn chwilio am noddwyr a phartneriaid sy’n gallu darparu cefnogaeth mewn nwyddau a rhoi gwerth ychwanegol i’n digwyddiadau. Os yw hyn yn apelio at eich amcanion busnes gallwn drafod pecynnau sy’n cyd-fynd yn well â’r model hwn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael mwy o wybodaeth am sut gall ein rhaglen ddigwyddiadau gefnogi’ch amcanion busnes, neu os hoffech fwy o wybodaeth am y pecynnau rydym yn eu, mae croeso i chi gysylltu â ni.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Steven Morse, Swyddog Marchnata a Noddi
steven.morse@swansea.gov.uk
01792 635781/07813579290
neu ffoniwch ein tîm Digwyddiadau Arbennig ar 01792 635102 neu e-bostiwch special.events@swansea.gov.uk