11 Tachwedd yw’r diwrnod a neilltuir yn draddodiadol i gofio’r holl rai sydd wedi aberthu eu bywydau er mwyn yr heddwch a’r rhyddid sydd gennym heddiw. Ar y diwrnod hwn, mae pobl ar draws y wlad yn cael seibiant i fyfyrio ar ebyrth dynion a menywod dewr y Lluoedd Arfog.
Am unfed awr ar ddeg yr unfed diwrnod ar ddeg yr unfed mis ar ddeg ym 1918, daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben.
Mae Distawrwydd yn y Sgwâr yn cofio’r rhai a fu farw dros heddwch a rhyddid.
Mae’r digwyddiad yn Sgwâr y Castell yn dechrau am oddeutu 10.30; gyda’r gwasanaeth am 10.50 yn cynnwys 2 funud o ddistawrwydd am 11am.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English