Roedd digonedd o #WefrauGwych yng Nghastell Ystumllwynarth dros y penwythnos!
Daeth cannoedd o ymwelwyr i’r diwrnod Hwyl i’r Teulu Dreigiau a Daeargelloedd ddydd Sadwrn i gwrdd â dreigiau bach, gwrando ar straeon traddodiadol am ddreigiau gan y Ddreigferch a’i Sgweier a chymryd rhan yng ngorymdaith liwgar y dreigiau…
Am fwy o wybodaeth am Gastell Ystumllwynarth a’r digwyddiadau sydd ar ddod, ewch i abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth