Yng Nghymru, rydyn ni’n enwog am ein cariad at gerddoriaeth a does dim man lle mae hyn yn fwy gwir nag yn Abertawe. Bydd sêr byd-eang yn perfformio mewn rhai o’n lleoliadau penigamp a llawn awyrgylch yr haf hwn, sy’n siŵr o’i gwneud hi’n flwyddyn fythgofiadwy.
Ond mae mwy na hynny – gyda nifer o wyliau cerddoriaeth ac artistiaid lleol yn perfformio hefyd, fyddwch chi byth yn bell o bob math o gerddoriaeth. Felly beth ydych chi’n aros amdano? Joio Bae Abertawe’r haf hwn: Y lle ar gyfer cerddoriaeth
Yn un o fandiau mwyaf llwyddiannus y DU mewn cof diweddar, bydd y rocwyr Cymreig yn perfformio ar lwyfan Stadiwm Liberty’n nes ymlaen ym mis Mai. Yn ei sioe fwyaf yng Nghymru ers ’99, bydd y Manic Street Preachers yn dathlu 20 mlynedd ers cyhoeddi’r albwm Everything Must Go. Bydd y Super Furry Animals a Public Service Broadcasting yn eu cefnogi.
Teyrnged Bowie
Mae’n drist y bu David Bowie farw’n ddiweddar, ond mae cof amdano’n parhau yn y sioe Ultimate Bowie. Mae’r sioe’n talu teyrnged i waith y seren fyd-eang mewn sioe sy’n weledol drawiadol ac yn lleisiol odidog.
CERDDORFA GENEDLAETHOL GYMREIG Y BBC
Yn noson reolaidd yng nghalendr digwyddiadau Neuadd Brangwyn, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cynnal cyngherddau misol yn arddangos rhai o’r perfformwyr a’r perfformiadau gorau mewn cerddoriaeth glasurol. Nesaf, Mahler 1 gyda Søndergård
Gŵyl Jazz
Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe’n dychwelyd ym mis Mehefin! Bydd rhai o enwau mwyaf y byd Jazz yn llenwi’r Ardal Forol, yn ogystal â sêr lleol ac addawol a fydd yn perfformio trwy gydol y penwythnos. Mae’r digwyddiad blynyddol, bellach yn ei 3edd flwyddyn, yn parhau i ffynnu.
Cantorion Gwalia
Bydd talent leol aruthrol yno eleni hefyd, gyda Chantorion Gwalia’n dathlu 50 mlynedd gyda’r cyngerdd arbennig iawn hwn. Wedi’i sefydlu ym 1966, mae hwn yn addo bod yn achlysur emosiynol tu hwnt.
Proclaimers
Pa mor bell fyddech chi’n cerdded i weld The Proclaimers? Wel, does dim angen cerdded 500 o filltiroedd, gan eu bod nhw’n dod i Theatr y Grand yn Abertawe ym mis Mehefin!
Lionel Richie
Bydd y seren fyd-eang Lionel Richie’n dod i Stadiwm Liberty ym mis Mehefin. Yn rhan o’i daith ‘All the Hits – Live’, mae’n addo hynny’n union, felly gall pawb sy’n dwlu ar Richie – hen ac ifanc – edrych ymlaen at noson o’i holl ganeuon gorau!
Drymwyr Mugenkyo
Yn wir mae cerddoriaeth o bob cwr o’r byd i’w chlywed yn Abertawe eleni, gan fod Drymwyr Taiko Mugenkyo’n dod i Theatr y Grand yn Abertawe ym mis Mehefin. Fel y grŵp drymio taiko teithiol mwyaf llwyddiannus ar y cyfandir hwn, dewch i weld pŵer rhythmau gwyllt ar ddrymiau taiko enfawr, coreograffi mygydog dirgel, cydamseriad wedi’i amseru’n berffaith, delweddaeth filwrol ôl-apocalyptaidd a hiwmor heintus.
More Info
Gŵyl Ryngwladol
Mae Gŵyl Ryngwladol Abertawe’n dychwelyd unwaith eto i arddangos rhai o oreuon byd y celfyddydau a cherddoriaeth. Gyda pherfformiadau trwy gydol yr wythnos mewn lleoliadau amrywiol, gyda phopeth o gerddorfeydd clasurol rhyngwladol i grwpiau gwerin lleol, mae’r digwyddiad bythol boblogaidd hwn yn addo cynnig rhywbeth i bawb.
Christy Moore
Ac yntau’n 70 oed yn nes ymlaen eleni, bydd Christy’n dathlu 50 mlynedd o deithio gyda’r cyngerdd dathlu hwn yn Neuadd Brangwyn.
Songbook collective
Mae Steve Cradock o Ocean Colour Scene ac aelodau band Paul Weller yn dod ynghyd ar gyfer llond llaw o ddyddiadau yn y DU (ac un yn unig yng Nghymru!) i chwarae detholiad arbennig o ganeuon o’u prosiectau eu hunain a cherddoriaeth boblogaidd gan Paul Weller, Ocean Colour Scene, The Moons a llawer mwy. Cyfle unigryw i weld y cerddorion o safon ryngwladol hyn mewn cyngerdd clòs.
Katherine Jenkins
Cyngerdd Nadolig dod adref arbennig iawn gan y seren Kathryn Jenkins, mae’n addo bod yn anrheg Nadolig berffaith pan fydd Kathryn a’i gwesteion yn dathlu’r Nadolig mewn steil.
Noel Gallagher
Yn aelod allweddol o un o fandiau mwyaf Prydain erioed, mae Noel Gallagher yn dod â’i High Flying Birds i Barc Singleton ym mis Medi. Gyda chefnogaeth gan Gaz Coombes, Frightened Rabbit a Pretty Vicious, bydd hwn yn un o gyngherddau mwyaf y flwyddyn!
More Info
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English