Date/Time:
Date(s) - 07/10/2018
4:00 pm
RY Neuadd Fawr, Campws y Bae Prifysgol Abertawe
Rownd derfynol un o gystadlaethau canu amlycaf Cymru. Ymhlith enillwyr amlwg y gorffennol mae Trystan Llŷr Griffiths, Fflur Wyn, Rebecca Evans a Bryn Terfel. Gyda pherfformiadau gan y rhai yn y rownd derfynol a Chôr Orpheus Treforys, mae hwn yn addo bod yn brynhawn o adloniant gwych.
Mae gan MOCSA (Cymdeithas Cefnogwyr Côr Orpheus Treforys) hanes hir o gefnogi Côr Orpheus Treforys a helpu i gefnogi cantorion ifanc Cymreig. Mae wedi bod yn cynnal cystadleuaeth flynyddol i gantorion ers 1977.
Mae’r gystadleuaeth yn denu cystadleuwyr o golegau cerdd ar draws y DU. Mae’r pedwar sy’n cystadlu yn y rownd derfynol eleni wedi cael eu dewis yn dilyn cyfres o ragbrofion a byddant yn perfformio o flaen panel o feirniaid amlwg.
Bydd yr enillydd eleni’n derbyn Tlws Canwr Ifanc Cymreig MOCSA, wedi’i noddi gan Gravells o Gydweli, a Gwobr Goffa Ivor E Simms gwerth £2,000, wedi’i gyfrannu gan y Côr. Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn tarian arysgrifedig a siec o £300.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle unigryw i ni weld a chlywed rhai o unawdwyr y dyfodol gorau’r wlad, wedi eu hyfforddi’n glasurol, ac i gael profiad o glywed perfformiad cyngerdd gan un o brif Gorau Meibion Cymru.
Tocynnau
£12, dim seddi gadw
Prynau Tocynnau
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English