Date/Time:
Date(s) - 05/12/2018
7:30 pm
Location: Theatr y Grand Abertawe
Yn syth o’r West End yn Llundain, dyma’r hoff sioe deyrnged i George Michael yn y byd!
Byddwch yn barod am noson fythgofiadwy i ddathlu’r seren fyd-eang, George Michael.
Gallwch greu atgofion newydd wrth i chi wrando ar hen glasuron. Mae’r sioe’n cynnwys ei holl ganeuon gorau gan gynnwys Figure, Freedom, Faith a llawer mwy. Dyma strafagansa drawiadol na ddylid ei cholli!
Byddwch ar eich traed ac yn dawnsio gyda phob un o’ch hoff ganeuon gan Wham a gyrfa unigol George gan gynnwys Whisper, Freedom 90, Outside a Too Funky!
Bydd y sioe hon yn mynd â chi ar daith gerddorol o’r gân emosiynol, Jesus To A Child, i’r caneuon hynod boblogaidd, Don’t Let The Sun Go Down On Me, I’m Your Man a Wake Me Up. Dewch i ymuno â ni wrth i ni dalu teyrnged barchus i un o’r cerddorion gorau erioed gyda’n sioe lwyfan syfrdanol sy’n creu cyffro rhyngwladol. Mae’r sioe hon yn teithio i wledydd megis Awstralia, Gwlad Belg, Denmarc, yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Iwerddon a Sweden, a bydd mwy o wledydd yn cael eu hychwanegu at y rhestr.
Dewch i ailfyw’r angerdd, y steil a’r sensitifrwydd sy’n rhan o gerddoriaeth George Michael gyda Fastlove!
Rydym yn teithio i’r holl brif leoliadau ac arenâu felly prynwch eich tocynnau yn awr – ni ddylid colli’r sioe hon!
Tocynnau: £27.00 Mae consesiynau dethol ar gael
Ffôn: 01792 475715
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English