Date/Time:
Date(s) - 14/09/2019
11:00 am - 12:00 pm
Location: Canolfan Dylan Thomas
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad lansio This is Not A Poem, cerdd ffilm Eric Ngalle Charles a Greg Lewis sy’n archwilio materion amrywiaeth a hil, ac sy’n dathlu goddefgarwch a dealltwriaeth.
Mae’n seiliedig ar waith y bardd Eric a aned yn Cameroon, a ddaeth i Gymru bron ugain mlynedd yn ôl i geisio lloches ac ers hynny mae wedi dod yn un o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru.
Bydd y ffilm fer hon yn rhan o ddigwyddiad arbennig lle bydd Eric yn trafod barddoniaeth a’i syniadau ei hun am hil a hunaniaeth, ac yn annog trafodaeth â’r gynulleidfa.
Mae Canolfan Dylan Thomas yn bartner creadigol yn y ffilm, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mynediad am ddim.
Categories
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English