
Bydd bandiau gorymdeithio, fflotiau hudol, cymeriadau ffilmiau’r Nadolig, offer chwyddadwy Nadoligaidd a Siôn Corn a’i sled yn ymddangos yng Ngorymdaith y Nadolig Abertawe eleni.
Bydd yr orymdaith yn dechrau yng Nghanolfan Dylan Thomas am 5pm ac yn mynd i fyny Stryd y Gwynt tuag at Sgwâr y Castell. Yma, bydd sled Siôn Corn yn stopio gyntaf er mwyn i’r dyn ei hun droi goleuadau’r Nadolig ymlaen a chwifio ar y plant (bach a mawr). Yna bydd yr orymdaith yn parhau i fyny’r Stryd Fawr, i lawr Stryd y Berllan ac i Ffordd y Brenin lle bydd Siôn Corn yn stopio am yr eildro i droi gweddill goleuadau canol y ddinas ymlaen cyn parhau i lawr Ffordd y Brenin.
Bydd goleuadau disglair, peiriannau eira a thân gwyllt, felly os nad oeddech yn teimlo hwyl yr ŵyl cyn i’r orymdaith ddechrau, byddwch yn siŵr o’i deimlo erbyn y diwedd!