Mae Gŵyl Ryngwladol Abertawe sy’n hynod lwyddiannus yn dychwelyd i’r ddinas fis Hydref hwn, gyda golwg newydd sbon a llu o artistiaid, cerddorion, digrifwyr, perfformwyr a llawer mwy.
Dros y pythefnos, o ddydd Gwener 2 Hydref tan ddydd Sul 17 Hydref, byddwch yn gallu gweld dros 20 o ddigwyddiadau amrywiol o gerddoriaeth a chomedi i osodiadau celf, mewn nifer o leoliadau ar draws Abertawe.
Fe’i sefydlwyd ym 1948 fel Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe, ac mae’r Ŵyl wedi mynd o nerth i nerth, ac mae’n denu ymweliadau gan gerddorfeydd ac artistiaid Prydeinig a thramor – yr unig berfformiadau o’r fath yn ne Cymru y tu allan i Gaerdydd. Gan gyfuno safonau rhyngwladol â ffocws ar artistiaid Cymreig rhagorol a gwaith arloesol, mae’r Ŵyl yn hanfodol i galendr diwylliannol de-orllewin Cymru.
Bydd y rhai sy’n dwlu ar gerddoriaeth yn cael gwledd eleni gyda llu o enwau mawr yn cymryd rhan. Mae Neuadd Brangwyn yn croesawu triawd o Gerddorfeydd o bwys: Cerddorfa Ffilharmonig Dresden, dan arweiniad Michael Sanderling, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, dan arweiniad Jac van Steen a hefyd Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham dan arweiniad Edward Garnder. Heb anghofio Trio Apaches, Sinfonia Cymru, Band Charlie Wood, Opera Dinas Abertawe, Clare Hammond, Catrin Finch a mwy!
Os oes awydd gweld ychydig o gelf, mae’r Oriel Mission yn croesawu Ryan L. Moule gyda’i arddangosfa ‘Divisible Remainder’, ac mae Mike Hill: Red Oxide hefyd yn Oriel Ceri Richards, Canolfan Gelfyddydau Taliesin.
I’r rhai sy’n dwlu ar y theatr, gallwch weld perfformiadau o The Phantom of the Opera a The Lodger. Beth am fynd ar Daith Gerdded Glyweled Ryngweithiol gyda’r hwyr a gweld Abertawe fel erioed o’r blaen. Bydd yr enwog Max Boyce ac Iolo Williams yn galw heibio Theatr y Grand hefyd.
Dyma un o’r rhestrau gorau a mwyaf erioed ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Abertawe, felly peidiwch â’i cholli. Ewch i’r wefan i weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau ac i archebu eich tocynnau.
Gobeithiwn eich gweld chi yno!
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English