Lleolir Parc Singleton oddeutu 1.5 milltir oddi allan i Ganol Dinas Abertawe. Cynlluniwch ymlaen llaw a threfnwch sut i gyrraedd a gadael cyn diwrnod y digwyddiad!
Cyrraedd y Lleoliad
Cyrraedd mewn Car
Dilynwch arwyddion y cyngerdd i Barc Singleton, Abertawe, a dilynwch arwyddion priodol meysydd parcio’r digwyddiad.
O’r M4 (Caerdydd)
Gadewch yr M4 yng Nghyffordd 42 a dilynwch yr A483 i Abertawe. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton ar yr A4067. Lleolir Parc Singleton ar y dde, oddeutu 500m ar ôl pasio Maes Rygbi Sain Helen.
O’r M4 (Caerfyrddin)
Gadewch yr M4 trwy gyffordd 47 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483. Dilynwch arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton, ac wedi oddeutu 2.5 milltir, trowch i’r dde wrth set o oleuadau traffig pwysig gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Gŵyr (mae tafarn ar yr ochr dde – The Marquis Arms). Dilynwch yr A4216 a throwch i’r dde yn yr ail gylchfan fechan. Daliwch ati i ddilyn arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton ac yna arwyddion ar gyfer meysydd parcio’r digwyddiad.
Meysydd Parcio’r Digwyddiad
Bydd yr holl feysydd parcio yn agor am 12 o’r gloch (canol dydd). Daliwch sylw: ni ellir parcio dros nos yn unrhyw un o feysydd parcio’r digwyddiad. Mae meysydd parcio’r digwyddiad ar gyfer deiliaid tocynnau’r digwyddiad yn unig. Cofiwch, trwy archebu ymlaen llaw, byddwch chi’n sicrhau bod lle parcio ar gael i chi!
Y Rec (Maes Parcio Melyn)
- Cost fesul cerbyd – £10*
- Cod post – SA2 0AU
- Pellter cerdded i’r maes – 800m
- Arwyneb y maes parcio – Graean a Glaswellt
- Ar agor o – 12 o’r gloch (canol dydd)
Ysbyty Singleton (Maes Parcio Coch)
- Cost fesul cerbyd – £10 (a ffi archebu)
- Cod post – SA2 8QG
- Pellter cerdded i’r maes – 1400m
- Arwyneb y Maes Parcio – Tarmac
- Ar agor o – 12 o’r gloch (canol dydd)
Daliwch sylw: Mae’r maes parcio hwn o fewn pellter cerdded rhesymol o faes y digwyddiad ac mae wedi’i leoli oddi allan i’r mannau hynny ble caiff y ffyrdd eu cau.
Ysgol yr Esgob Gore (Maes Parcio Glas)
- Cost fesul cerbyd – £10 (a ffi archebu)
- Cod post – SA2 9AP
- Pellter cerdded i’r maes – 150m
- Arwyneb y Maes Parcio – Glaswellt
- Ar agor o – 10am
Cyrraedd y digwyddiad mewn bws
Mae bysys ar gael o Ganol Dinas Abertawe a nifer o fannau eraill i Barc Singleton.
Lleolir arosfannau bysys ger mynedfeydd Heol Gŵyr, Lôn Sgeti a Heol Ystumllwynarth Parc Ystumllwynarth.
Holwch eich gweithredwr gwasanaethau bysys i gael manylion amserlenni bysys wedi’r cyngerdd, oherwydd gallai cau ffyrdd effeithio ar y mannau ble mae bysys yn codi ac yn gollwng teithwyr.
Dylai mynychwyr y cyngerdd fod yn ystyriol o amseroedd y cyngerdd a chynghorir hwy i holi’r gweithredwr i gael manylion yr amserlenni oherwydd newidiadau posibl i amserlenni arferol ar ddiwrnodau digwyddiadau.
Ar ddiwedd y digwyddiad, bydd bysys wennol yn rhedeg rhwng Heol Ystumllwynarth (Maes Sain Helen) a Chanol Dinas Abertawe.
First Cymru: 0871 200 2233 neu www.firstgroup.com
Mae’r gwasanaethau bysys canlynol yn rhedeg yng nghyffiniau Parc Singleton: 2, 2A, 2B, 2C, 3, 3A, 4, 4A, 8, 8X, 43, 37, 116, 118, 119, 145, 20A, 10, 20, 22, 21A,
Cyrraedd ar drên
Yr orsaf drenau agosaf at Barc Singleton yw Gorsaf Stryd Fawr Abertawe, sydd oddeutu 2 filltir o’r parc. Mae safle tacsis y tu allan i’r orsaf. Os byddwch yn mynd adref ar drên, cofiwch adael safle’r digwyddiad o leiaf awr cyn amser gadael eich trên i gyrraedd yr orsaf mewn da bryd. Dylai mynychwyr y cyngerdd fod yn ystyriol o amseroedd y cyngerdd a chynghorir hwy i holi’r gweithredwr www.traveline.cymru
Rhif ffôn: 0800 464 00 00
Cau Ffyrdd
Bydd nifer o ffyrdd yn cael eu cau a bydd nifer o wyriadau traffig hefyd yn ystod y digwyddiad i sicrhau y bydd mynychwyr y digwyddiad yn cadw’n ddiogel ac yn mwynhau.
Dyma’r pwyntiau allweddol:
- Ni ellir parcio yn Heol De La Beche a Heol Gŵyr (rhwng Heol De La Beche a Heol Eversley) rhwng 10am ar ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf a 2am ar ddydd Llun 29 Gorffennaf . I ddiogelu pawb ac i gynorthwyo â symudiadau traffig yn yr ardal, mae’n ofynnol i ni sicrhau na fydd unrhyw gerbydau yn parcio ar rai ffyrdd.
- Er mwyn gallu sicrhau hyn, bydd cyfyngiadau parcio yn eu lle ar y ffyrdd a grybwyllir uchod a bydd cerbydau sy’n cael eu parcio yno yn cael eu halio ymaith. Os bydd cau’r ffyrdd hyn yn effeithio arnoch chi, gofynnwn yn garedig i chi symud eich cerbyd i leoliad arall cyn 10am ar ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf.
- Bydd Lôn Brynmill rhwng Heol Ystumllwynarth a Chylchfan Heol Bryn ar gau i draffig o 12pm ar ddydd Sul 28 Gorffennaf hyd at 2am ar ddydd Llun 29 Gorffennaf.
- Heol Mwmbwls (rhwng Lôn Sgeti a Lôn y Gors)
Heol Gŵyr (rhwng Heol De La Beche a Heol Eversley) ar gau rhwng oddeutu 10pm a 11.45pm ar ddydd Sul 28 Gorffennaf. Diben hyn yw sicrhau diogelwch mynychwyr y cyngerdd wrth iddynt adael y cyngerdd. Rydym ni’n disgwyl mai’r rhain fydd yr adegau prysuraf yng nghyffiniau Parc Singleton. - Gosodir arwyddion gwyriadau i gynorthwyo â llif traffig yn yr ardal, ond disgwylir y bydd hi’n brysur iawn yno, yn enwedig ar yr adegau pan fydd y cyngherddau yn dod i ben.
- Bydd mynediad i bobman ar gael i’r gwasanaethau brys trwy’r adeg.
- Bydd Swyddogion Gorfodi Parcio’r Cyngor yn gweithredu yn yr ardal yn ystod penwythnos y digwyddiad i fonitro parcio ceir yn ddiwahaniaeth neu’n anghyfreithlon i helpu i leihau tarfu ar breswylwyr.
Tacsis
Mae tacsis ar gael o orsaf trenau Abertawe, Canol Dinas Abertawe a nifer o leoliadau eraill yn yr ardal.
Bydd taith mewn tacsi o’r orsaf drenau i Barc Singleton yn costio tua £8, ond cofiwch y gwnaiff traffig prysur/teithiau araf gynyddu’r pris.
- Ni chaniateir i dacsis fynd i mewn i Barc Singleton. Os byddwch chi’n cyrraedd mewn tacsi, dylech chi drefnu i gael eich gollwng a’ch codi yn Heol Bryn.
Bydd ciwiau i aros am dacsis i adael y safle yn eithaf hir yn aml, felly ystyriwch drefnu gwasanaeth hurio preifat ymlaen llaw i ddod i’ch codi chi. Cofiwch ganiatáu digonedd o amser i gerdded o faes y cyngerdd i’r ffordd fawr pan fyddwch yn archebu eich tacsi.
Lleolir y man codi penodedig ar gyfer cerbydau hacni ym mhen Lôn Brynmill Heol Bryn (angen map).
Bydd swyddogion tacsis yn gweithredu yn yr ardal.
Llecyn Gollwng / Codi Teithwyr
Lleolir y llecyn penodedig i godi a gollwng teithwyr yn Heol De La Beche. Bydd y llecyn hwn wedi’i oleuo’n dda a bydd stiwardiaid yno trwy gydol y digwyddiad.
Peidiwch â cheisio gollwng neu godi teithwyr yn unrhyw le ar hyd Heol Ystumllwynarth.
Beicio
Os hoffech chi feicio i’r digwyddiad, gallwch gynllunio eich taith yn www.sustrans.co.uk
Rhannu Ceir
Os byddwch chi’n teithio mewn car, rhannwch gar os gallwch chi. Fe wnaiff rhannu car eich helpu i arbed arian trwy rannu costau, a bydd hynny’n lleihau cyfanswm y traffig ar y ffyrdd, gan helpu’r amgylchedd.
Llefydd i aros
I gael rhestr o lefydd gwych i aros, trowch at ein chwaer wefan, www.visitswanseabay.com. Archebwch le i aros gan ddefnyddio eu rhestr hwylus o westai, busnesau gwely a brecwast a rhagor. Hefyd, cofiwch chwilio’n rheolaidd am y cynigion argaeledd hwyr i gael y bargeinion munud olaf gorau.