Digwyddiad ysblennydd ar Ffordd y Brenin i gyd-fynd â’r digwyddiad cynnau goleuadau’r Nadolig
Mae digwyddiad newydd yn cael ei gynllunio ar gyfer Ffordd y Brenin i ddathlu’r cyfnod cyffrous cyn y Nadolig yn Abertawe.
Mae Cyngor Abertawe’n terfynu manylion y digwyddiad, a fydd yn cyd-fynd â’r digwyddiad cynnau goleuadau’r Nadolig nos Iau, 10 Tachwedd.
Bydd rhan o’r digwyddiad yn cynnwys llwyfan, sy’n cael ei drefnu mewn partneriaeth â Rhanbarth Gwella Busnes (BID) Abertawe a gorsaf radio The Wave, i helpu i greu awyrgylch Nadoligaidd.
Bydd y digwyddiad sy’n addas i deuluoedd hefyd yn cynnwys adloniant â thema Nadoligaidd nad yw wedi’i weld yng nghanol y ddinas erioed o’r blaen.
Mae’r digwyddiad cynnau goleuadau’r Nadolig wedi’i symud i nos Iau eleni ar gais busnesau i helpu i roi hwb i’r cynllun siopa hwyr cyn y Nadolig.
Cau ffyrdd ar gyfer digwyddiad cynnau goleuadau’r Nadolig nos Iau
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar ddiwrnod y digwyddiad, er ymddengys y byddant yn llawer byrrach na’r disgwyl.
* Stryd y Coleg 09:30-23:30 ar ei hyd cyfan
* Stryd y Berllan 15:00-23:30 o’i chyffordd â Stryd y Coleg i’w chyffordd â Ffordd y Brenin
* Ffordd y Brenin 15:00-23:30 o Stryd y Berllan i’w chyffordd â Stryd Craddock
* Ffordd Bellevue 15:00-23:30 ar ei hyd cyfan
* Dynevor Place 15:00-23:30 ar ei hyd cyfan
* Stryd Pleasant 15:00-23:30 ar ei hyd cyfan
* Stryd Horton 15:00-23:30 ar ei hyd cyfan
Bydd gorchymyn dim parcio ar y Stryd Fawr, Stryd y Castell a Stryd y Gwynt o 6am i 11.30pm. Bydd rhai bysus hefyd yn cael eu harallgyfeirio ar y diwrnod, er y bydd arhosfan i’r de dros dro ar waith y tu allan i Princess House ar Ffordd y Dywysoges yn hwyr brynhawn dydd Iau.
Bydd gwasanaethau parcio a theithio o Landŵr a Ffordd Fabian hefyd yn gweithredu bob 15 munud, gyda’r bws olaf yn gadael Sgwâr y Santes Fair am 8pm.
Bydd holl feysydd parcio Cyngor Abertawe ar agor ac ar waith. Bydd maes parcio aml-lawr Dewi Sant am ddim i gwsmeriaid o 3pm ar y diwrnod.
Ewch i www.nadoligabertawe.com i gael manylion am y digwyddiadau Nadolig hyn a mwy.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English