Mae’r wythnos fawr wedi cyrraedd o’r diwedd, ac mae Luna Cinema yn dychwelyd i Abertawe nos Fercher a nos Iau gyda dwy ffilm boblogaidd. A’r cyfan yn erbyn cefndir syfrdanol Castell Ystumllwynarth!
Mae Luna Cinema o’r farn nad oes dim byd gwell na mwynhau ffilm o dan y sêr gyda ffrindiau da, bwyd da a diod dda. Ac rydym yn cytuno’n llwyr! Mae Luna Cinema yn cynnig ffilmiau gwych mewn lleoliadau sy’n gwerthu pob tocyn ar draws y DU, a’r wythnos hon yw ein cyfle ni!
Nos Fercher 13 Medi, paratowch ar gyfer y clasur o 2000 gan Ridley Scott, Gladiator. Mae cymeriad Russell Crowe, Maximus, yn gobeithio ymddeol gyda’i deulu ar ôl arwain y Byddinoedd Rhufeinig fel Cadfridog llwyddiannus. Ond pan fydd Commodus (Joaquin Phoenix) yn llofruddio’r Ymerawdwr ac yn cymryd yr awenau ei hun, mae bywyd Maximus yn cwympo’n ddarnau. Ar ôl osgoi cael ei arestio gan Commodus, mae’n canfod ei deulu wedi’u llofruddio a’i gartref wedi’i ddinistrio, ac mae’n cael ei gipio gan gaethfasnachwyr a’i anfon i ymladd mewn twrnameintiau gladiatoriaid. A fydd y Gladiator yn goroesi’r brwydrau uffernol, yn dychwelyd i Rufain ac yn dial ar Commodus?
13th Medi – Gladiator (2000, 15)
Dyma ni wrthi unwaith eto nos Iau – gyda Mamma Mia! y ffilm enwog sy’n cynnwys cast llawn sêr megis Meryl Streep, Pierce Brosnan, Colin Firth, Stellan Skarsgard a llawer mwy. Ac wrth gwrs, eich hoff ganeuon Abba! Mae’r briodferch, Sophie, yn trefnu ei phriodas ddelfrydol yng Ngwlad Groeg. Ond, ar ôl canfod dyddiadur ei mam, mae am i’w thad gerdded at yr allor gyda hi – ond, pa un o’r tri dyn posib yw ei thad? Gan wahodd y tri heb ddweud wrth ei mam, mae hwyl, anrhefn a cherddoriaeth yn dilyn!
14th Media – Mamma Mia! (2008, PG)
Nid ffilmiau gwych yn unig sydd ar gael yn Luna Cinema! Dewch â phicnic ac ymlaciwch, neu, os nad ydych am baratoi’ch bwyd eich hun gallwch fwynhau’r bwyd a’r diodydd blasus sydd ar gael!
Mae bwyd twym ar gynnig gan Sicilia Roots, sy’n gweini bwyd stryd Sisilaidd, pizzas a byrgers o safon! Ac os oes angen rhywbeth arnoch i dorri syched, mae Bar Luna Estrella yn gweini detholiad llawn o ddiodydd alcoholig, dialcohol a phoeth.
Am gael y profiad Luna Cinema gorau? Beth am brynu Tocyn Premiwm i chi’ch hun – osgoi’r ciwiau, mwynhau diod am ddim yn y Luna Bar VIP, a gwylio’r ffilm o’ch cadair cyfarwyddwr a neilltuwyd yn arbennig i chi!