Mae gwyliau pythefnos blynyddol Plantasia, hoff baradwys drofannol pawb, yn cychwyn o ddydd Llun 8 Ionawr, er mwyn paratoi ar gyfer tymor 2018.
Mae’r cyrchfan ym Mharc Tawe yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd y ddinas a bydd staff arbenigol yn ymweld â’r safle er mwyn rhoi ychydig o gariad a gofal tyner i’r amrywiaeth cyfoethog o blanhigion, creaduriaid a choed sy’n byw yno.
Mae’r gwaith, sy’n cynnwys defnyddio craen fasged i gyrraedd rhai o haenau uchaf y llystyfiant, yn rhan o brosiect cynnal a chadw blynyddol parhaus.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Ynghyd ag amrywiaeth eang o anifeiliaid, mae Plantasia yn gartref i lu o lystyfiant fforest law sy’n cyfuno hwyl a dysgu i roi profiad gwych i ymwelwyr.
“Mae iechyd a lles y bywyd natur yno o’r pwys mwyaf, a dyna pam mae rhaglen cynnal a chadw gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar ddechrau pob blwyddyn.
“Roedd 2017 yn llwyddiant mawr i Plantasia, wrth i ddegau ar filoedd o ymwelwyr ddod i’r lleoliad, ynghyd â disgyblion a myfyrywr o ysgolion lleol. Byddwn yn ailagor ein drysau o ddydd Mawrth 23 Ionawr.”
Rhai o uchafbwyntiau’r llynedd oedd cyflwyno teulu o 4 wiwer resog i’r safle a symud yr wyth terapin presennol i’r prif bwll er mwyn i ymwelwyr fwynhau eu perfformiadau’n fwy.
Meddai Maria Bowen, Swyddog Addysg Plantasia, “Mae’r gwiwerod rhesog yn greaduriaid llawn egni, maent wedi ymgartrefi’n dda ac wedi bod yn tyfu’n gyflym ers ymuno â ni ychydig fisoedd yn ôl.
“Maen nhw wedi bod yn ychwanegiad gwych at atyniad i ymwelwyr sy’n llawn hwyl ac sy’n addysgu pobl am anifeiliaid a bywyd gwyllt o bedwar ban byd.”
Mae Plantasia hefyd yn gartref i nadroedd, draig farfog, paracitiaid, loricitiaid, corynnod a llawer helaeth o bryfed.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.abertawe.gov.uk/plantasia neu ffoniwch 01792 474555.