Mae canwr o Ynys Môn a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent yn paratoi i ganu yn nigwyddiad Proms yn y Parc y BBC yn Abertawe eleni.
Bydd Gruffudd Wyn, sy’n dod o Amlwch yn Ynys Môn, yn canu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ystod y dathliad cerddorol pan fydd yn dychwelyd i Barc Singleton nos Sadwrn 14 Medi.
Nid oedd y gystadleuaeth wedi dechrau’n dda i Gruffydd. Yn ystod ei glyweliad cyntaf roedd am ganu ‘Un Giorno Per Noi’ gan Josh Groban, ond roedd Simon Cowell wedi gofyn iddo stopio a chanu rhywbeth arall. Yn ffodus, roedd e’ hefyd wedi paratoi ‘Nessum Dorma’, sef aria Puccini, a helpodd Paul Potts i lwyddo yn 2007.
Yn ystod y gyfres, cafodd Gruffydd ganmoliaeth gyffredinol am ei lais mawr a’i berfformiadau proffesiynol dan bwysau, gan gyrraedd y 10 terfynol yn y rhaglen dalent boblogaidd gyda’i fersiwn o Nelle Tue Mani gan Andrea Bocelli o’r ffilm Gladiator.
Gallwch chi fwynhau ‘llais haearn’ Gruffydd Wyn yn nigwyddiad Proms yn y Parc y BBC ym Mharc Singleton Abertawe ddydd Sadwrn 14 Medi, rhwng 6pm a 7pm. Mae tocynnau ar gael i’w prynu ar-lein nawr.
Prynnu Tocynau Nawr