Ddydd Sadwrn 22 Awst, bydd canol dinas Abertawe yn cynnal ‘Parti’r Byd’.
Bydd grwpiau cymunedol o Abertawe’n cynrychioli nifer o ddiwylliannau o bedwar ban byd. O Wlad Pwyl i Sri Lanca, bydd Abertawe’n bair amlddiwylliannol o gerddoriaeth, dawnsio a pherfformiad.
Bydd yr atyniadau allweddol yn y dathliad amlddiwylliannol hwn yn cynnwys cerddoriaeth fyw draddodiadol, dawnsio, celf a chrefft, yn ogystal â bwyd a diod. Bydd arddangosiadau a chyfleoedd hefyd i roi cynnig ar weithgareddau, gan gynnwys bwyd o bedwar ban byd, celf ryngwladol a chrefftau traddodiadol i chi eu mwynhau yng nghanol y sgwâr.
Am y tro cyntaf, bydd Parti’r Byd eleni’n croesawu cymuned Wcreinaidd yr ardal.
Er gwaethaf i sawl aelod o’r gymuned Wcreinaidd fyw yn yr ardal am sawl blwyddyn, dim ond yn y cyfnod cyn uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd y llynedd gwnaethant gysylltu a dod ynghyd.
Ers hynny, mae’r gymuned wedi bod yn cysylltu â phobl, yn eu diddanu gyda chaneuon gwerin, dawnsiau a chrefftau llaw traddodiadol Wcreinaidd i werthu, codi arian a chefnogi teuluoedd Wcreinaidd yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro presennol.
Ddydd Sadwrn 22 Awst byddant yn diddanu’r torfeydd yn nigwyddiad Parti’r Byd yn Sgwâr y Castell gyda’u hadloniant cyfareddol gan gynnwys:
– Arddangosiadau steilio gwallt a dillad Wcreinaidd traddodiadol
– Cynnyrch a wnaed â llaw gan gynnwys bandiau gwallt wedi’u haddurno â blodau lliwgar
– Cerddoriaeth werin Wcreinaidd
– Gwisgoedd traddodiadol
Mae Parti’r Byd yn gyfle gwych i grwpiau cymunedol Abertawe gyflwyno’u hunain i gynulleidfa ehangach, gan gynyddu ymwybyddiaeth o’u gwaith gwerthfawr, a denu aelodau newydd o bosib.
Nid yw’n rhy hwyr i ymuno yn yr hwyl. Os hoffai grwpiau gymryd rhan, efallai’n perfformio ar y llwyfan, yn arddangos crefftau neu goginio traddodiadol neu’n cynnal gweithdy rhyngweithiol, yna e-bostiwch special.events@swansea.gov.uk neu ffoniwch 01792 635428.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English