Mae un o ddigwyddiadau cerddoriaeth a theuluol mwyaf poblogaidd Cymru – Proms yn y Parc BBC Cymru Wales – yn dychwelyd i Barc Singleton ddydd Sadwrn 14 Medi.
Cyrraedd y Lleoliad
Cyrraedd mewn Car
Dilynwch arwyddion y cyngerdd i Barc Singleton, Abertawe, a dilynwch arwyddion priodol meysydd parcio’r digwyddiad.
O’r M4 (Caerdydd)
Gadewch yr M4 yng Nghyffordd 42 a dilynwch yr A483 i Abertawe. Dilynwch yr arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton ar yr A4067. Lleolir Parc Singleton ar y dde, oddeutu 500m ar ôl pasio Maes Rygbi Sain Helen.
O’r M4 (Caerfyrddin)
Gadewch yr M4 trwy gyffordd 47 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Abertawe ar yr A483. Dilynwch arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton, ac wedi oddeutu 2.5 milltir, trowch i’r dde wrth set o oleuadau traffig pwysig gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer Gŵyr (mae tafarn ar yr ochr dde – The Marquis Arms). Dilynwch yr A4216 a throwch i’r dde yn yr ail gylchfan fechan. Daliwch ati i ddilyn arwyddion ar gyfer Ysbyty Singleton ac yna arwyddion ar gyfer meysydd parcio’r digwyddiad.
Meysydd Parcio’r Digwyddiad
Bydd yr holl feysydd parcio yn agor am 2.30pm. Daliwch sylw: ni ellir parcio dros nos yn unrhyw un o feysydd parcio’r digwyddiad. Mae meysydd parcio’r digwyddiad ar gyfer deiliaid tocynnau’r digwyddiad yn unig. Cofiwch, trwy archebu ymlaen llaw, byddwch chi’n sicrhau bod lle parcio ar gael i chi!
Y Rec
- Cost fesul cerbyd – £5
- Cod post – SA2 0AU
- Pellter cerdded i’r maes – 800m
- Arwyneb y maes parcio – Graean a Glaswellt
- Ar agor o – 2.30pm
Ysgol yr Esgob Gore
- Cost fesul cerbyd – £5
- Cod post – SA2 9AP
- Pellter cerdded i’r maes – 150m
- Arwyneb y Maes Parcio – Glaswellt
- Ar agor o – 2.30pm
Cyrraedd y digwyddiad mewn bws
Mae bysys ar gael o Ganol Dinas Abertawe a nifer o fannau eraill i Barc Singleton.
Lleolir arosfannau bysys ger mynedfeydd Heol Gŵyr, Lôn Sgeti a Heol Ystumllwynarth Parc Ystumllwynarth.
Holwch eich gweithredwr gwasanaethau bysys i gael manylion amserlenni bysys wedi’r cyngerdd, oherwydd gallai cau ffyrdd effeithio ar y mannau ble mae bysys yn codi ac yn gollwng teithwyr.
Dylai mynychwyr y cyngerdd fod yn ystyriol o amseroedd y cyngerdd a chynghorir hwy i holi’r gweithredwr i gael manylion yr amserlenni oherwydd newidiadau posibl i amserlenni arferol ar ddiwrnodau digwyddiadau.
Ar ddiwedd y digwyddiad, bydd bysys wennol yn rhedeg rhwng Heol Ystumllwynarth (Maes Sain Helen) a Chanol Dinas Abertawe.
First Cymru: 0871 200 2233 neu www.firstgroup.com
Mae’r gwasanaethau bysys canlynol yn rhedeg yng nghyffiniau Parc Singleton: 2, 2A, 2B, 2C, 3, 3A, 4, 4A, 8, 8X, 43, 37, 116, 118, 119, 145, 20A, 10, 20, 22, 21A,
Cyrraedd ar drên
Yr orsaf drenau agosaf at Barc Singleton yw Gorsaf Stryd Fawr Abertawe, sydd oddeutu 2 filltir o’r parc. Mae safle tacsis y tu allan i’r orsaf. Os byddwch yn mynd adref ar drên, cofiwch adael safle’r digwyddiad o leiaf awr cyn amser gadael eich trên i gyrraedd yr orsaf mewn da bryd. Dylai mynychwyr y cyngerdd fod yn ystyriol o amseroedd y cyngerdd a chynghorir hwy i holi’r gweithredwr www.traveline.cymru
Rhif ffôn: 0800 464 00 00
Beicio
Os hoffech chi feicio i’r digwyddiad, gallwch gynllunio eich taith yn www.sustrans.co.uk
Rhannu Ceir
Os byddwch chi’n teithio mewn car, rhannwch gar os gallwch chi. Fe wnaiff rhannu car eich helpu i arbed arian trwy rannu costau, a bydd hynny’n lleihau cyfanswm y traffig ar y ffyrdd, gan helpu’r amgylchedd.
Llefydd i aros
I gael rhestr o lefydd gwych i aros, trowch at ein chwaer wefan, www.visitswanseabay.com. Archebwch le i aros gan ddefnyddio eu rhestr hwylus o westai, busnesau gwely a brecwast a rhagor. Hefyd, cofiwch chwilio’n rheolaidd am y cynigion argaeledd hwyr i gael y bargeinion munud olaf gorau.