Rydym wedi clirio’r promenâd ar ôl Sioe Awyr Cymru a gynhaliwyd y penwythnos diwethaf yn Abertawe. Fodd bynnag, mae’r tîm yn parhau i ddadlau ynghylch pa arddangosiad sydd orau – y Red Arrows neu Hediad Coffa Brwydr Prydain?
Yn wir, mae’r Red Arrows bob amser yn hynod gyflym ac yn ystwyth, gan gynrychioli cyflymder, chwimder a manyldeb yr RAF gyda’u harddangosiadau erobatig traws-sonig sy’n cynhyrfu’r torfeydd. Fodd bynnag, bydd y tîm yn hedfan yn eu hawyrennau jet Hawk nodedig, sy’n medru gwneud y fath bethau.
Ar y llaw arall, bydd Hediad Coffa Brwydr Prydain (y mae GWR, partner manwerthu swyddogol Sioe Awyr Cymru’n falch o’i noddi), gyda’i awyrennau o’r Ail Ryfel Byd, sef awyrennau brwydro’r Hurricane a’r Spitfire, ynghyd ag awyren fomio Lancaster, sy’n mynd yn ôl at gyfnod y frwydr enwog pan ddywedodd Churchill y geiriau enwog, “never was so much owed by so many to so few”. Mae pob arddangosiad gan yr awyrennau hyn yn coffáu’r rheiny a laddwyd wrth wasanaethu’r wlad hon.
Ta beth, gan wybod y byddai’r tîm wedi’i rannu’n ddau, aethom i arddangosiadau ar y ddaear Sioe Awyr Cymru gyda’n ‘blwch barn’ – lle gallwch roi eich barn drwy ddefnyddio blwch syml a pheli lliwgar – i ofyn am farn y cyhoedd.