Mae degau o filoedd o ymwelwyr sy’n cyfri’r dyddiau tan Sioe Awyr Cymru yn cael cynnig cyngor munud olaf ar sut i wneud yn fawr o’u dyddiau yn un o ddigwyddiadau am ddim mwyaf Cymru.
Mae’r Red Arrows a Hediad Coffa Brwydr Prydain ymysg yr awyrennau sy’n paratoi i arddangos eu doniau yn y digwyddiad ar 6 a 7 Gorffennaf.
Ac am y tro cyntaf bydd arddangosiad newydd gyda’r hwyr, a fydd yn cynnwys balwnau aer poeth, tîm arddangos erobatig, arddangosiad parasiwt wrth iddi nosi yn ogystal â cherddoriaeth fyw a diweddglo o dân gwyllt dros y bae.
Dyma 11 peth y bydd angen i chi eu gwybod am y Sioe Awyr 2019!
1.Gyda’r Hwyr. Cynhelir yr arddangosiad ‘Gyda’r Hwyr’ o waelod Lôn Brynmill hyd at y Ganolfan Ddinesig rhwng 8.30pm a 10.30pm ar nos Sadwrn 6 Gorffennaf. Bydd 10 o falwnau aer poeth wedi’u clymu ac yn tanio ar hyd draeth Abertawe, dwy awyren arddangos â thân gwyllt yn saethu oddi ar eu hadenydd a thîm arddangos parasiwt y Tigers a fydd yn perfformio naid parasiwt gyda’r hwyr. Ynghyd â diddanwyr, ffair bleser, bandiau byw a diweddglo tân gwyllt, gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n colli’r noson hon o adloniant.
2. Yr Ap. Os ydych chi am wybod popeth sydd i’w wybod am Sioe Awyr Cymru, lawrlwythwch ap y Sioe Awyr a noddir gan Home from Home o’r App Store am £1.99 yn unig. Bydd yr ap yn llawn diweddariadau amser go iawn ar yr hyn sy’n digwydd a phryd yn ogystal â chynigion lleol gan gynnwys gostyngiadau ar dai bwyta, bariau ac atyniadau lleol. Os ydych chi wedi prynu’r ap yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yna mae’r diweddariadau am ddim – dim ond unwaith bydd rhaid i chi dalu!
3. Rheolaeth o’r ddaear. Mae adloniant ac arddangosiadau ar y tir yn dechrau o 10am. Bydd efelychwyr hedfan, ffair bleser, cerbydau ac arddangosiadau’r Lluoedd Arfog, tŵr dringo symudol, a hyd yn oed atgynhyrchiadau maint llawn o awyrennau Spitfire a Hurricane, ar hyd Prom Abertawe a Heol Ystumllwynarth. Ceir arddangosiad newydd arall eleni gan gŵn heddlu’r RAF.
4. Cwrdd â’r Peilotiaid. Os nad yw gwylio’r awyrennau o’r Prom yn ddigon, cewch y cyfle hefyd i gwrdd â Thîm Raven, Tîm Parasiwt y Tigers a’r peirianwyr milwrol sy’n cadw’r Red Arrows, Chinook a Hediad Coffa Brwydr Prydain yn yr awyr.
5. Parcio. Mae digon i ddewis ohono, gan ddechrau o £10 y dydd ar gyfer car a theithwyr mewn dau safle parcio a theithio – Glandŵr a Stiwdio’r Bae a fydd yn eich gollwng chi a’r teulu yn y Ganolfan Ddinesig.
6. Cau ffyrdd. Cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer dydd Gwener 5 Gorffennaf yn ogystal â dydd Sadwrn a dydd Sul. Er mwyn sicrhau diogelwch a diogeledd ar gyfer digwyddiad mawr fel hwn, bydd angen cau ffyrdd. O hanner dydd ar ddydd Gwener 5 Gorffennaf, bydd Heol Ystumllwynarth/Heol y Mwmbwls ar gau o gyffordd Dunvant Place i Lôn Brynmill tua’r gorllewin. Bydd y ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad ddydd Sadwrn a dydd Sul. Ceir mapiau a manylion llawn ar wefan y Sioe Awyr sioeawyrcymru.com
7. Cerddoriaeth fyw. Peidiwch â cholli’r gerddoriaeth fyw gan dalent lleol ar ddau lwyfan; wrth y Senotaff a’r Ganolfan Ddinesig.
8. Plant. Mae eich helpu chi i gadw’ch plant yn ddiogel yn flaenoriaeth i ni hefyd. Bydd bandiau arddwrn ‘Tag your tot’ a noddir gan Dawsons ar gael am ddim. Bydd y rhain ar gael wrth y mannau gwybodaeth, lleoliadau gollwng parcio a theithio neu gan aelodau o staff yn y meysydd parcio. Os yw’ch plentyn yn cael ei wahanu oddi wrthych, dywedwch wrtho am gadw llygad am y stiwardiaid a fydd yn gwisgo siacedi gwelededd uchel.
9. Cyfleusterau Hygyrch. Yn ôl yr arfer, rydym yn darparu safleoedd Changing Places, toiledau, ardaloedd gwylio dynodedig a pharcio. Am fanylion llawn ewch i’r wefan yn sioeawyrcymru.com
10. Uchafbwyntiau. Ar wahân i’r Red Arrows, mae rhaglen arddangosiadau fawr eleni yn cynnwys Hedfan Coffa Brwydr Prydain a noddir gan GWR, y Chinook a Typhoon yn ogystal ag ymddangosiadau cyntaf gan The Catalina, The Blades, The Ultimate Warbirds a’r T33 Shhting Star.
11. Mae llawer mwy. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael cipolwg ar y wefan gynhwysfawr yn sioeawyrcymru.com