Bydd Sophie Evans, y gantores a’r actores o Gymru, yn sicr yn boblogaidd iawn wrth iddi berfformio ar y llwyfan yn nigwyddiad Proms yn y Parc y BBC yn Abertawe eleni.
Prynnu Tocynnau NawrAr ôl perfformio fel Glinda yn Wicked, sef sioe hynod boblogaidd y West End, am y ddwy flynedd ddiwethaf, bydd Sophie yn diddanu cynulleidfaoedd gyda’i llais swynol yn nigwyddiad Proms yn y Parc y BBC pan fydd yn dychwelyd i Barc Singleton nos Sadwrn 14 Medi.
Daeth Sophie i’r amlwg yn 2010 ar ôl cymryd rhan yn y gyfres deledu, Over The Rainbow, a ddarlledwyd gan y BBC. Er iddi ddod yn ail yn y rhaglen, roedd hi’n amlwg wedi gwneud argraff ar Andrew Lloyd Webber, gan iddo ddewis Sophie wedi hynny i wisgo’r sliperi rhuddem enwog a chwarae rhan Dorothy yn The Wizard of Oz.
Bydd Sophie’n canu nifer o ganeuon enwog gan gynnwys ‘Popular’ (Wicked) ac ‘Over The Rainbow’ (Wizard of Oz) gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, dan arweiniad Robert Ames.
I nodi 50 mlynedd ers y glaniad cyntaf ar y lleuad, bydd Sophie hefyd yn canu World in Union, y mae’rgeiriau wedi’u gosod ar gerddoriaeth Y Planedau gan Gustav Holst.
Peidiwch â cholli perfformiad gwych Sophie yn nigwyddiad Proms yn y Parc y BBC ym Mharc Singleton, Abertawe. Tocynnau ar werth nawr.
Prynnu Tocynnau NawrMethu aros tan 14 Medi i glywed Sophie’n canu’r caneuon poblogaidd hyn? Gwrandewch ar ein rhestr chwarae ar Spotify!