Mae Y Penwythnos Mwyaf yn dod i Abertawe, Belfast, Coventry a Perth yr haf hwn
Ar deledu, radio, ar-lein a ffonau symudol gydol y penwythnos i gyd
Mae Y Penwythnos Mwyaf yn digwydd dros ŵyl y banc ddiwedd Mai (25-28 Mai) mewn pedwar lleoliad, mewn pedair cenedl a dros bedwar diwrnod, gyda dros 175,000 o docynnau ar gael i’r cyhoedd. Dyma fydd dathliad mwyaf o gerddoriaeth erioed y BBC ar deledu, radio, ar-lein ac ar ffonau symudol.
Bydd perfformiadau gan yr enwau mwyaf poblogaidd ym myd cerddoriaeth, gan ddathlu ehangder ac amrywiaeth cerddoriaeth fyw ar draws y BBC. Prif artistiaid Parc Singleton, Abertawe fydd –
- Taylor Swift
- Ed Sheeran
- Niall Horan
- Jess Glynne
- Years & Years
- Wolf Alice
- J Hus
- Craig David
- James Bay
Gyda nifer o enwau mawrion eto i’w cyhoeddi.
Meddai Ed Sheeran, “Rwy mor gyffrous i fod yn rhan o‘r Penwythnos Mwyaf yr haf hwn! Dwi wastad wedi caru perfformio at Benwythnosau Mawr gyda Radio 1 ac eleni mae am fod hyd yn oed yn fwy. Amdani Abertawe!”
Mae Y Penwythnos Mwyaf BBC Music yn wirioneddol unigryw wrth i BBC Radio 1, 1Xtra & Asian Network, BBC Radio 2, BBC Radio 3 a BBC 6 Music oll gynnal cyngherddau. Ar draws y penwythnos, bydd darlledu cynhwysfawr ar deledu ar BBC One, BBC Two a BBC Four gyda pherfformiadau ar gael ar BBC iPlayer, ffonau symudol ac ar-lein. Mi fydd graddfa’r darlledu ar yr un lefel â gŵyl Glastonbury, gan ganiatáu i gynulleidfaoedd adref fwynhau eu holl hoff artistiaid a chanfod cerddoriaeth newydd sbon.
Mi fydd tocynnau Y Penwythnos Mwyaf yn mynd ar werth ddydd Llun 12 Chwefror, am bris o £18.00 a chost archebu o £4.50. Ticketmaster fydd yn gofalu am y broses archebu – unig asiant tocynnau swyddogol Y Penwythnos Mwyaf. Mae dros 175,000 o docynnau ar gael i’r cyhoedd ac wedi eu pwysoli’n ddaearyddol gyda chanran ar gael i bob un o’r ardaloedd lleol. Am wybodaeth bellach am docynnau, ewch i www.bbc.co.uk/biggestweekend
Meddai Bob Shennan, Cyfarwyddwr BBC Radio a Cherddoriaeth, “Mae Y Penwythnos Mwyaf am fod yn ŵyl unwaith mewn oes i bawb sy’n hoffi cerddoriaeth, boed nhw yn y lleoliadau neu’n mwynhau holl hud y perfformiadau ar iPlayer, ynghyd â’n holl rwydweithiau teledu, radio a digidol. Lle bynnag ry chi yn y wlad, mi fyddwch chi’n rhan o ddigwyddiad cerddorol mwyaf, gyda’r dewis ehangaf o genres mae’r BBC wedi ei gynnal erioed.”
Cyhoeddwyd Y Penwythnos Mwyaf bore ma ar raglenni brecwast BBC Radio 1, BBC Radio 2, BBC Radio 3 a BBC 6 Music –
Meddai Nick Grimshaw, cyflwynydd brecwast BBC Radio 1, “Mae rhywun yn gallu dwedu fod yr haf ar ei ffordd pan da ni’n cyhoeddi gŵyl anferth, a da ni’n dod â dau o artistiaid mwyaf y byd i Abertawe. Bydd Taylor ac Ed, yn ogystal â llwyth o enwau enfawr sydd eto i’w cyhoeddi yn gwneud Y Penwythnos Mwyaf yn ddigwyddiad y flwyddyn.”
www.bbc.co.uk/thebiggestweekend
@bbcmusic ar Twitter, Facebook ac Instagram