Mae ein teulu o’r gofod, y Rocediaid, angen eich help chi i ddod o hyd i lyfrau sydd wedi cael eu bachu gan yr estroniaid! Darllenwch lyfrau llyfrgell a chasglu sticeri er mwyn cwblhau’ch ffolder waith. Allwch chi ddod o hyd i’r estroniaid mewn pryd i achub y dydd? Ewch i’r llyfrgell i gychwyn eich Ras Ofod!
Cynhelir Sialens Ddarllen yr Haf yn flynyddol yn ystod gwyliau’r haf. Gallwch gofrestru yn eich llyfrgell leol, ac wedyn y cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud yw ymweld â’ch Llyfrgell Abertawe o leiaf deirgwaith yn ystod gwyliau’r haf, a benthyca llyfrau o’ch dewis.
Mae Llyfrgelloedd Abertawe yn cynnal tair sialens:
- Sialens Fach ar gyfer plant 0 – 4 oed: 3 ymweliad ac o leiaf 6 llyfr
- Sialens Ddarllen yr Haf ar gyfer plant 5 -12 oed: 3 ymweliad ac o leiaf 6 llyfr
- Sialens Ddarllen yr Haf i Arddegwyr 12 – 14 oed: 3 ymweliad ac o leiaf 3 llyfr i arddegwyr
Ar hyd y ffordd bydd plant 5 – 12 oed a’r arddegwyr yn casglu sticeri arbennig ac ysgogiadau eraill. Bydd tystysgrif a medal i bob plentyn sy’n cwblhau’r sialens, a bydd plant 0 – 4 oed yn derbyn tystysgrif ar ôl cwblhau – i gyd AM DDIM.
Mae gwefan yn ychwanegu at yr hwyl hefyd! spacechase.org.uk. Felly dewch i’ch Llyfrgell Abertawe leol ac ymunwch â hwyl Sialens Ddarllen yr Haf.