Mae dau ymlusgiad egsotig arall yn dod i arfer â’u bywydau newydd yn Abertawe.
Mae Cuddles, peithon rhwydog 10 oed, a Haku, monitor dŵr Asiaidd, bellach wedi’u hychwanegu at gasgliad amrywiol o anifeiliaid a phlanhigion Plantasia.
Mae Cuddles, sydd tua 11 troedfedd o hyd, yn cymryd lle Gypsy, peithon 30 oed o Fyrma, a fu farw’n drist iawn ym mis Rhagfyr wedi blynyddoedd lawer yn Plantasia.
Mae Haku, a allai dyfu i bum troedfedd o hyd, yn rhywogaeth o fadfallad sy’n byw fel arfer yn Ne-ddwyrain Asia. Rhoddwyd enw iddo’n ddiweddar gan ymwelydd â Plantasia, Lisa Kedward, a fydd yn mynd i’r atyniad ym Mharc Tawe cyn bo hir i gwrdd ag aelod newydd y teulu.
Cyngor Abertawe sy’n rheoli Plantasia.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Roedd marwolaeth Gypsy yn hynod drist, ond rydym wrth ein boddau i groesawu dau aelod newydd i deulu Plantasia.
“Bydd Cuddles a Haku yn ymuno â chasgliad o anifeiliaid a phlanhigion sydd eisoes yn helaeth ac sy’n swyno ac yn addysgu ymwelwyr o Abertawe a’r tu hwnt.
“Ymysg y creaduriaid y gall pobl eu gweld yn Plantasia, ceir mwncïod, pysgod trofannol ac adar egsotig sydd hefyd yn rhoi’r cyfle i ymwelwyr ddysgu am y Goedwig Law.”
Mae digwyddiadau sy’n dod i Plantasia yn cynnwys y ‘Parth Anifeiliaid: Antur y Goedwig Law‘ o ddydd Mawrth 21 Chwefror i ddydd Iau 23 Chwefror, gyda sioeau bob dydd am 10.30am, 12 noon, 2pm a 3.15pm.
Bydd y digwyddiad addysgol a rhyngweithiol hwn yn galluogi ymwelwyr i ddod wyneb yn wyneb ag ymlusgiaid a chreaduriaid di-asgwrn-cefn, a bydd hefyd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd diogelu coedwigoedd glaw’r byd.
Ewch i www.plantasia.org neu ffoniwch 01792 474555 i brynu tocynnau neu i gael mwy o wybodaeth am Plantasia.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English