Gall pobl ifanc sydd am fod yn dywysog neu’n dywysoges am y diwrnod gael eu castell eu hunain hefyd os ydynt yn mynd i Gastell Ystumllwynarth yn hwyrach y mis hwn.
Mae gan ymwelwyr ifanc y cyfle i ddod wedi’u gwisgo fel eu hoff gymeriad tylwyth-teg yn ystod y digwyddiad arbennig hwn ddydd Llun Gŵyl y Banc, 26 Awst. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfleoedd i fwynhau gweithdai celf a chrefft, straeon tylwyth-teg, paentio wynebau â phefr ac adloniant gan Rapunzel, Aladdin, Jasmine ac Elsa.
Bydd y diwrnod hwyl hwn i’r teulu yn rhoi’r cyfle i dywysogion a thywysogesau gwireddu eu breuddwydion a’u hoff straeon tylwyth teg mewn castell canoloesol go iawn, gan ddysgu mwy am yr hyn a ddigwyddodd yno yn nyddiau marchogion Normanaidd ac Arglwyddi Penrhyn Gŵyr.
Mae Castell Ystumllwynarth ar agor 11am-5pm o ddydd Mawrth i ddydd Sul tan 29 Medi, ac ar benwythnosau ym mis Hydref.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth am ragor o wybodaeth am y castell a’r digwyddiadau sydd ar y gweill.