Date/Time:
Date(s) - 14/06/2018 - 17/06/2018
All Day
Lleoliadau amrywiol, Ardal Forol Abertawe
Wedi’i lleoli mewn ardal tra ddeniadol sef Ardal Forol Abertawe, hon fydd yr ŵyl orau! Bydd yr ŵyl hon sy’n para am bedwar diwrnod yn cynnwys rhai o’r enwau mwyaf yn y byd jazz a bydd yr ŵyl jazz fwyaf yng Nghymru eleni!
Y Rhestr
Mae gŵyl 2018 yn cynnwys un o’r rhaglenni mwyaf helaeth yn hanes gwyliau. Bydd Abertawe yn croesawu rhai o enwau mwyaf a gorau’r byd jazz, o ffefrynnau i berfformwyr sy’n newydd i’r ŵyl.
Laurence Cottle Big Band Soul Vaccination Band Mawr Peter Long – Cyngerdd Benny Goodman yn Neuadd Carnegie
Derek Nash & Noel McCalla: Some Kinda Wonderful Tina May & Lee Gibson: Sophisticated Ladies
Triawd Daniel Marques Pedwarawd Jim Rotondi
Louis Prima Jr & The Witnesses The Toots Project
Pedwarawd Judith Nijland/Libor Smolda Pedwarawd James Taylor
Pee Wee Ellis Funk All Stars
Yr Ŵyl
Bydd gŵyl 2018 yn cynnwys 16 o leoliadau a thros 50 o ddigwyddiadau am bedwar diwrnod cyffrous o’r gerddoriaeth jazz orau! Gallwch roi cynnig ar greu cerddoriaeth gyda gweithdai jazz am ddim yn ystod y penwythnos; does dim rhaid i chi wylio’r perfformwyr proffesiynol yn unig! O gerddoriaeth gitâr i fandiau mawr, mae rhywbeth ar gyfer pawb, ni waeth eu hoffter neu eu gallu. A pheidiwch ag anghofio’r sesiynau jamio sydd am ddim hefyd – gallwch wrando ar brif artistiaid yn jamio gyda sêr jazz lleol, neu gallwch ymuno yn yr hwyl a chwarae gyda’r gorau!
Gŵyl
Gweithdai
Sesiynau jamio
Yr Ŵyl Ymylol
Bydd yr Ŵyl Ymylol, sy’n cynnwys dros 40 o ddigwyddiadau am ddim mewn 13 o leoliadau, yng Ngŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe!
Bydd Abertawe’n atseinio gyda cherddoriaeth jazz y mis Mehefin hwn, gyda sesiynau jamio gyda’r hwyr, gweithdai jazz a rhai o berfformwyr jazz lleol a byd enwog mwyaf dalentog!
Edrychwch ar raglen lawn yr Ŵyl Ymylol
Tocynnau a mwy
I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar wefan Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe
Categories