Gydag odlau o fry a siwtiau siarp, bydd ABC yn perfformio yn nigwyddiad Proms yn y Parc y BBC eleni yn Abertawe.
Mae ABC yn sicr yn un o nifer o grwpiau enwog a ddaeth i’r amlwg yn yr 80au gyda brand ‘pop’ unigryw i nodi degawd newydd. Bydd ABC yn perfformio yn y digwyddiad cerddorol blynyddol pan fydd yn dychwelyd i Barc Singleton ddydd Sadwrn 14 Medi.
Pan gafodd eu halbwm cyntaf, The Lexicon of Love, ei ryddhau ym mis Mai 1982, aeth yn sydd i frig y siartiau. Roedd yn cynnwys caneuon poblogaidd megis Tears Are Not Enough, Poison Arrow, The Look of Love, ac All Of My Heart.
Gallwch glywed caneuon ABC yn fyw yn nigwyddiad Proms yn y Parc y BBC ym Mharc Singleton, Abertawe, ddydd Sadwrn 14 Medi. Bydd y gatiau ar agor o 4.30pm, gyda’r adloniant cyn y sioe yn dechrau am 6pm a’r brif sioe, gydag ABC yn perfformio, am 7pm.
Mae tocynnau ar gyfer Proms yn y Parc y BBC yn rhatach os ydych chi’n eu prynu ymlaen llaw – beth am brynu tocyn ar-lein nawr?
Methu aros tan 14 Medi i glywed caneuon unigryw a rhamantus newydd ABC? Gwrandewch ar ein rhestr chwarae ar Spotify!