Mae’n bleser gennym gyhoeddi ychwanegu dau artist o fri at y rhestr ar gyfer digwyddiad Club MTV Abertawe. Bydd Sigma a Nero bellach yn ymuno â’r rhestr hir o artistiaid bendigedig sy’n dod i Barc Singleton ar 24 Medi.
Sigma
Yn rhyngwladol Sigma (a adwaenir hefyd fel Cameron Edwards a Joe Lenzie), y deuawd troelli gwerthu aml-blatinwm, oedd yr unig grŵp yn 2014 i’w senglau gyrraedd rhif 1 yn y DU yn gefngefn gyda ‘Nobody To Love’ a ‘Changing’ (sy’n cynnwys Paloma Faith). Gwerthodd y ddwy dros 100,000 o gopïau yn yr wythnos gyntaf. Erbyn hyn, mae Sigma wedi gwerthu bron 2 filiwn o senglau ledled y byd mewn 12 mis yn unig, wedi mynd yn blatinwm ddwywaith yn y DU (‘NTL’ a ‘Changing’) ac yn aur ar gyfer ‘Changing’ yn yr Almaen, a Benelux, ac yn blatinwm yn Awstralia a Seland Newydd (‘NTL’).
Nero
Dychwelodd NERO, triawd sydd wedi ennill Gwobrau Grammy a chael ei enwebu ar gyfer Gwobrau Ivor Novello, eleni gydag albwm sydd wedi cadarnhau ei enw fel un o fandiau mwyaf cyffrous Prydain. Mae’n cyd-fynd ag albwm a gyrhaeddodd rif un yn 2012, ‘Welcome Reality’ (gyda’r caneuon ‘Me & You’, ‘Guilt’ a’r gân a gyrhaeddodd frig y siartiau ‘Promises’) ac yn gwthio sain apocalyptaidd y band sydd yn fynych yn rhamantaidd electronig ymhellach nag erioed.
Cynhelir cyngerdd Club MTV, a fydd yn cynnwys saith awr o gerddoriaeth fyw, ddydd Sadwrn 24 Medi. Mae Cyngor Abertawe eisoes wedi gweithio’n agos gydag MTV a Llywodraeth Cymru i ddod â’r cyngerdd hwn i’r ddinas.
Gwybodaeth am Docynnau
Mae tocynnau bellach ar werth o wefan Ticket Master a Derricks Records yn Abertawe. £15 yn unig yw pris y tocynnau (yn ogystal â ffi archebu), a gellir eu prynu naill ai ar wefan Ticketmaster neu o Derricks Music ar Stryd Rhydychen.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English