Mae straeon clasurol William Shakespeare, Roald Dahl a Jonathan Swift yn dod yn fyw yn Abertawe’n ddiweddarach yr haf hwn.
Cynhelir perfformiadau Theatr Awyr Agored o A Midsummer Night’s Dream, Danny the Champion of the World a Gulliver’s Travels yng Nghastell Ystumllwynarth ym mis Awst.
Bydd Danny the Champion of The World ac A Midsummer Night’s Dream yn cael eu perfformio ddydd Iau 4 Awst, gan ddechrau am 2pm a 7.30pm yn ôl eu trefn. Mae Gulliver’s Travels yn cael ei pherfformio am 2pm ddydd Mawrth 9 Awst.
Bydd y gatiau’n agor awr ymlaen llaw ar gyfer y tri pherfformiad.
Cyngor Abertawe sydd wedi trefnu’r digwyddiadau, mewn cydweithrediad â NFU Mutual.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae lleoliad hanesyddol, arfordirol Castell Ystumllwynarth yn ei wneud yn lleoliad bendigedig ar gyfer perfformiadau theatr awyr agored. Mae’r mathau hyn o ddigwyddiadau bob amser wedi bod yn boblogaidd iawn yn y gorffennol, felly rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i archebu eu tocynnau cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael ei siomi.
“Mae A Midsummer Night’s Dream, Danny the Champion of The World a Gulliver’s Travels ymysg y cyhoeddiadau mwyaf poblogaidd erioed. Maent oll yn straeon sy’n addas i’r teulu cyfan a byddant yn apelio at bobl o bob oedran.
“Yn ogystal â’r Theatr Awyr Agored, rydym hefyd yn cydweithio â The Luna Cinema er mwyn dangos Back To The Future a Grease ar sgrin enfawr yng Nghastell Ystumllwynarth ym mis Medi. Mae’r holl ddigwyddiadau hyn yn rhan o raglen digwyddiadau a gweithgareddau Joio Bae Abertawe sydd â rhywbeth at ddant pawb yr haf hwn a’r tu hwnt.”
Pris tocynnau’r Theatr Awyr Agored yw £7 ymlaen llaw ac £8 ar y dydd ar gyfer perfformiadau’r prynhawn i blant, ac £11 ymlaen llaw ac £14 ar y dydd ar gyfer perfformiadau’r nos. Mae tocynnau teulu ymlaen llaw a chonsesiynau hefyd ar gael, gyda mynediad am ddim i blant dan dair blwydd oed.
Mae tocynnau ar gael yn enjoyswanseabay.com/cy/theatr-awyr-agored-yng-nghastell-ystumllwynarth neu drwy ffonio Llinell Ddigwyddiadau Bae Abertawe ar 01792 637300.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English