Mae wedi bod yn fis Gorffennaf bythgofiadwy yn Abertawe, ac un o’r misoedd prysuraf o ran digwyddiadau hyd yn hyn!
Dechreuodd ein haf llawn #gwefraugwych mewn steil gyda chyngherddau mawr, ein sioe awyr flynyddol a oedd yn cynnwys dathliad arbennig ar gyfer Abertawe’n 50, ymweliad brenhinol a llawer mwy. Gadewch i ni edrych yn ôl ar yr holl ddigwyddiadau!
Ar 3 Gorffennaf, daeth EUB Tywysog Cymru i Abertawe fel rhan o ddathliadau Abertawe’n 50, 50 o flynyddoedd ar ôl i’r Tywysog ymweld â’r ddinas ar 3 Gorffennaf, 1969, deuddydd ar ôl iddo gael ei arwisgo fel Tywysog Cymru, i gyhoeddi’r penderfyniad yn Neuadd y Ddinas, Abertawe.
Dechreuodd y digwyddiadau gyda Sioe Awyr Cymru ar 6 a 7 Gorffennaf, lle cafwyd deuddydd llawn arddangosiadau erobateg ac arddangosiadau ar y ddaear ar hyd y bae. Daeth cannoedd ar filoedd o ymwelwyr i’r ddinas i wylio sioe am ddim fwyaf y wlad, a gwelon nhw arddangosiadau anhygoel gan y Red Arrows, Hediad Coffa Brwydr Prydain, Typhoon a llawer mwy.
Ac eleni roedd miloedd hefyd wedi mwynhau Sioe Awyr Cymru gyda’r Hwyr – sioe oleuadau gyda’r hwyr, gyda thân gwyllt yn goleuo’r bae a mwy, a’r cyfan i ddathlu hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas.
Hefyd roedd Gŵyl Arbennig Abertawe, sef digwyddiad chwaraeon cynhwysol i’r rheiny ag anableddau corfforol, addysgu a deallusol a gynhelir yn flynyddol, ar 9 a 10 Gorffennaf, ac roedd yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau nofio ac athletau!
Nesaf, aeth dros 30,000 o gefnogwyr i Barc Singleton ar 13 Gorffennaf am ddiwrnod bythgofiadwy – cyflwynodd y Stereophonics gyngerdd anhygoel i ddathlu 20 mlynedd ers perfformio yn Stadiwm Morfa. Beth am i ni ddathlu un yr un modd unwaith eto ymhen 20 mlynedd?
Roedd rhai wynebau enwog wedi ymweld â’r ddinas hefyd, ac ar 24 Gorffennaf, daeth yr actores Catherine Zeta-Jones a’i gŵr, Michael Douglas, i Abertawe er mwyn i Catherine dderbyn Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas, ac i ddilyn hyn roedd dathliad carped coch yn Neuadd Brangwyn gyda’r hwyr.
Nid Catherine Zeta-Jones oedd yr unig un i dderbyn Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas; roedd Catrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Frenhinol hefyd wedi dathlu derbyn Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas gyda gorymdaith drwy ganol y ddinas ar 27 Gorffennaf. Roedd Catrawd 157 (Cymru) y Corfflu Logisteg Frenhinol, sydd bob amser wedi recriwtio’n helaeth o ardal Abertawe, wedi derbyn rhyddid y ddinas mewn digwyddiad seremonïol arbennig yn Neuadd y Ddinas.
A doedd yr holl ddathlu ym Mharc Singleton heb ddod i ben ychwaith, wrth i Pete Tong berfformio’i sioe Ibiza Classics 2019 yn Abertawe ar 27 Gorffennaf! Gyda’r Heritage Orchestra’n cyfeilio dan arweiniad Jules Buckley, dawnsiodd miloedd o gefnogwyr drwy’r nos i rai o’r caneuon dawns mwyaf poblogaidd, a oedd yn cael eu perfformio gan un o DJs enwocaf y DU fel rhan o benwythnos anhygoel o gerddoriaeth.
Parhaodd y penwythnos llawn cerddoriaeth ym Mharc Singleton pan ddaeth Jess Glynne i Abertawe ar 28 Gorffennaf! Mae Glynne yn dal y record fel y gantores unigol â’r nifer mwyaf o recordiadau sengl a gyrhaeddodd frig y siartiau yn y DU, a daeth i berfformio i dros 10,000 o gefnogwyr.
Waw! Am fis! Ac nid yw’r haf llawn #gwefraugwych wedi dod i ben ychwaith – mae Proms yn y Parc y BBC, Theatr Awyr Agored, ffilmiau i blant a llawer mwy i ddod o hyd! Rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar ddod yr haf hwn!