Mae’r ysgol wedi gorffen ar gyfer yr haf, ond peidiwch â phoeni, mae digon o weithgareddau’n cael eu cynnal ar draws Abertawe i ddifyrru’ch rhai bach (a’r rhai mwy!) O ffilmiau ar ein sgrîn fawr awyr agored a gweithdai crefft, i wyliau a chwaraeon, gallwn eich sicrhau y bydd digon ar gael i lenwi amser y plant a’r teulu cyfan.
Hwyl i’r Teulu
Mae llu o weithgareddau gwych i’r teulu cyfan yr haf hwn, o weithdai difyr i ddiwrnodau allan arbennig. Beth am fod yn archaeolegydd neu gwrdd â dreigiau yng Nghastell Ystumllwynarth, closio at anifeiliaid yn Plantasia, neu blymio i fyd hudol Roald Dahl yng Nghanolfan Dylan Thomas? Hyn i gyd y mis hwn a llawer mwy!
Cadwch yn actif!
Mae gan bob un o’n canolfannau raglen ddigwyddiadau llawn hwyl ar gyfer gwyliau’r haf. O nofio i sglefrolio, mae rhywbeth at ddant pawb. Dechreuwch gynllunio’ch hwyl chwaraeon drwy edrych ar yr amserlenni.
Prom Abertawe
Mwynhewch ddiwrnod mas gwych ar hyd Prom Abertawe! Gyda’i amrywiaeth o atyniadau ynghyd â thraeth trawiadol 5 milltir o hyd Bae Abertawe, mae’n gyrchfan gwych i ymwelwyr a phreswylwyr o bob oed.
Dewch i fwynhau’r pedalos elyrch a dreigiau ar Lyn Cychod Singleton, a gêm o golff-troed, neu gadewch i’r plant chwarae yn Lido Blackpill a Gerddi Southend, y gellir cyrraedd pob un ohonynt ar Drên Bach Bae Abertawe.
Diwylliant, Cerddoriaeth a Chwaraeon
Nid haf gwych i’r plant yn unig ydyw, mae digwyddiadau gwych i bawb yn Abertawe’r haf hwn. Dwlu ar ddiwylliant? Beth am ychydig o Shakespeare yng Nghanolfan Dylan Thomas, Theatr Awyr Agored yng Nghastell Ystumllwynarth neu ewch draw i’r Ŵyl Bwytho ar draws y ddinas. Am gael ychydig o chwaraeon? Mae ardal gefnogwyr Tîm PF yn dychwelyd i Sgwâr y Castell ar gyfer Gemau Olympaidd Rio 2016, mae’r Twrnamaint Rygbi Traeth yn dychwelyd ac ni allwch anghofio am ras rafftiau RNLI y Mwmbwls.
Cultural Activities Sport Music
Dal yn chwilio am fwy? Gallwch fynd i Ŵyl Bwyd a Diod FAWR Abertawe, a 10fed Gŵyl Cwrw a Seidr Abertawe!
Gerddi Botaneg yn eu Blodau
Bydd y Gerddi Botaneg yn eu Blodau unwaith eto ym mis Awst!
Pob mis Awst, cawn gyfle i fwynhau harddwch blodau Gerddi Botaneg Parc Singleton, lle perffaith i fynd am dro yn yr haf. Bydd cerddoriaeth fyw hefyd bob dydd Sul, teithiau tywys a llawer o weithgareddau i blant drwy gydol y mis.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English