Cewch gyfle i gwrdd â swricatiaid, corynnod, nadroedd a madfall enfawr yn ystod hanner tymor yn Abertawe.
Yr wythnos hon, bydd Plantasia, sef tŷ gwydr trofannol y ddinas, yn croesawu dau anifail blewog newydd, sef y swricatiaid Onsie a Joe, a fydd yn ymgartrefu yn y Parth Anial dros yr hanner tymor.
Bydd Plantasia ar agor drwy gydol gwyliau’r ysgol a bydd pedair sioe ryngweithiol y dydd rhwng 29 Mai a 31 Mai yn y Parth Anifeiliaid: Creu Bwystfilod, sy’n edrych ar reolwyr plâu naturiol gan gynnwys chwilod duon, miltroediaid, sgorpionau, sgorpionau chwip mawr, tarantwlaod, gecoaid, sgincod, nadroedd a madfall fonitor.
Bydd Trên Bach y Bae enwog yn dychwelyd i’r trac ar y promenâd a bydd Lido Blackpill, sy’n boblogaidd ar ddiwrnod poeth bob amser, yn ailagor.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Gallwch ddweud mai dechrau swyddogol yr haf yw gŵyl banc y Sulgwyn ac rydym yn croesawu teuluoedd sy’n chwilio am ddiwrnod gwych i Abertawe.
“Unwaith y bydd Y Penwythnos Mwyaf gan BBC Music ar ben, bydd llawer o bethau i’w gweld a’u gwneud o hyd,” meddai.
“Os yw’r haul yn tywynnu, mae amser i chi weld Gerddi Clun yn eu Blodau o hyd gan fod y rhododendronau, yr asalêu a phlanhigion, coed a llwyni lliwgar eraill yng Ngerddi Clun yn eu llawn ogoniant ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
“Bydd Trên Bach y Bae, sy’n hynod boblogaidd, yn gweithredu bob dydd o ddydd Sadwrn 26 Mai i ddydd Sul 3 Mehefin ac mae’n ffordd berffaith o deithio i’r Mwmbwls ar ôl mwynhau treulio ychydig oriau yn yr haul yn Lido Blackpill.”
Os byddwch yn y Mwmbwls ar 28 Mai, beth am ddod i Gastell Ystumllwynarth a bwrw golwg dros gasgliad o anrhegion a wnaed yn lleol gan gynnwys tecstilau, gemwaith, llestri gwydr, cerameg a mwy yn Ffair Grefftau Crefftwyr Gŵyr?
Cynhelir gweithdy crefft hefyd yng Nghastell Ystumllwynarth sy’n addas i bobl ifanc rhwng 3 ac 11 oed am 11.30am ar 30 Mai a chynhelir sioe anifeiliaid Creaduriaid Annifyr ar 2 Mehefin o 11.00am i 4.30pm sy’n cynnwys nadroedd, tarantwlaod, crwbanod, madfallod, acsolotlaid a mwy.
Mae Cyngor Abertawe wedi trefnu rhaglen sy’n llawn gweithgareddau fel rhan o’i gyfres ParkLives felly bydd pob math o bethau’n cael eu cynnal gan gynnwys t’ai chi, ioga ar y traeth, pêl-droed a thenis bach mewn lleoliadau gwahanol yn y ddinas.
Yn ôl ar ôl seibiant am ychydig o flynyddoedd, bydd Gŵyl Gerdded Gŵyr yn dychwelyd rhwng 2 a 10 Mehefin 2018 gydag amrywiaeth o deithiau cerdded arfordirol a mewndirol, sy’n addas i bobl o bob gallu a chwaeth, gan gynnwys teithiau llenyddiaeth, bywyd gwyllt, o dafarn i dafarn a rhai hanesyddol.
Os bydd y tywydd yn arw, mae digon o bethau i’w gwneud dan do hefyd.
Mae rhaglen sy’n llawn gweithgareddau dros hanner tymor gan Ganolfan Dylan Thomas ac fel rhan o raglen Plant Actif y cyngor sy’n cael ei chynnal ym mhob un o’i ganolfannau hamdden Abertawe Actif.
Mae’n rhaid cadw lle ar rai gweithgareddau y soniwyd amdanynt uchod felly gwnewch yn siŵr fod lleoedd ar gael ymlaen llaw.
Am fwy o wybodaeth ewch i joiobaeabertawe.com