Mae Canol Dinas Abertawe’n paratoi ar gyfer yr wˆyl gyda digwyddiadau ac adloniant a fydd yn rhoi profiad siopa Nadolig cofiadwy i chi!
Mae’r cabanau gwyrdd a choch traddodiadol yn dychwelyd i Stryd Rhydychen o 24 Tachwedd i 21 Rhagfyr. Bydd dros 50 o fasnachwyr yn cynnig amrywiaeth gwych o waith celf, crefftau, bwyd blasus, addurniadau hardd ac anrhegion unigryw. Mwynhewch fwyd Nadoligaidd wrth fynd o le i le, ymlaciwch â gwydraid o win y gaeaf neu siopwch i’r eithaf!
Mae Marchnad arbennig Abertawe’n gwasanaethu cwsmeriaid drwy gydol y flwyddyn, a dewch o hyd iddi yng nghanol y ddinas. Gyda’r holl gynhwysion y mae eu hangen arnoch ar gyfer Nadolig perffaith, ac ar agor bob dydd o 7 Tachwedd tan Noswyl Nadolig, ni fydd gennych unrhyw broblem yn dod o hyd i bopeth sydd ar eich rhestr siopa. Hefyd ar agor ar ddydd Sul o 10.00am tan 4.30pm (13 Tachwedd tan Ddydd Nadolig).
Bydd Siôn Corn yn treulio amser yn ei Groto ar Stryd Portland o 24 Tachwedd tan 21 Rhagfy i wireddu dymuniadau’r Nadolig a lledaenu hwyl yr wˆyl. Hefyd bydd cyfle i gael tynnu llun gyda Siôn Corn! Ewch i nadoligabertawe.com i gael manylion llawn, gan gynnwys oriau agor a phrisiau. Bydd ceirw Siôn Corn yn hedfan i’r ddinas ddydd Sadwrn 17 Rhagfyr. Dewch i gwrdd â nhw ar Stryd Rhydychen o 11am tan 3pm.
O 26 Tachwedd bydd adloniant a gweithgareddau AM DDIM yng nghanol y ddinas, gan gynnwys corau’n difyrru siopwyr ym Marchnad Abertawe, Swyddfa Bost Siôn Corn yn Arcêd Rhodfa’r Siopwyr, cymeriadau cyfnod Dickens a pherfformiadau gan grwpiau lleol ar Stryd Rhydychen. Ewch i nadoligabertawe.com i gael y rhaglen ddiweddaraf.
- Cookibods Nadolig – dydd Sadwrn 26 Tachwedd (10am tan 4pm) Gall plant gael seibiant o’r siopa a mwynhau creu eu danteithion blasus eu hunain yn un o gabanau Marchnad y Nadolig.
- Nadolig Llawn Crefftau – dydd Sul 27 Tachwedd (10am tan 4pm) Gadewch i’r plant fod yn greadigol a chreu eu haddurniadau Nadolig eu hunain ym Marchnad y Nadolig. Llawer o ysbrydoliaeth a syniadau gan yr artistiaid a’r crefftwyr!
- Golygfa’r Geni yn Fyw – dydd Sadwrn 10 Rhagfyr (10.30am tan 3pm) Dewch i ymweld â Marchnad Nadolig Abertawe a mwynhau golygfa’r geni’n fyw ar Stryd Rhydychen. Bydd Mair a Joseff yno gyda’u hasyn ffyddlon, a bydd wˆyn bach pert, merlen gyfeillgar a geifr ewn yno hefyd. Gall plant anwesu a thrafod yr anifeiliaid er mwyn cael diwrnod Nadoligaidd cofiadwy.
- Carolau yn y Sgwâr – nos Fercher 14 Rhagfyr (7pm tan 8pm) Mae Côr Swansea Hope yn eich gwahodd i ddod ynghyd i fwynhau perfformiadau Nadoligaidd a chanu carolau yn Sgwâr y Castell.
Gormod i’w Gario?
Mae diwrnod siopa llwyddiannus fel arfer yn golygu nifer o fagiau, ond weithiau gall fod yn anodd eu cario i gyd. Cofiwch y loceri cyfleus sydd ar gael yn Llogi Cyfarpar Symudedd, Gorsaf Fysus Abertawe, lle gallwch adael eich bagiau mewn lle diogel wrth i chi barhau i siopa neu gael seibiant. Prisiau’n dechrau o £2 yn unig. Ffoniwch 01792 461785 i gael mwy o fanylion.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English