
Mae Abertawe’n lle sy’n wastad yn llawn hwyl, ond adeg Calan Gaeaf mae hi hyd yn oed yn well oherwydd bydd 4 digwyddiad i gyffroi’r teulu cyfan.
Ysbrydion yn y Ddinas

Bydd Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd i Abertawe ddydd Sadwrn 26 Hydref ar gyfer Dawns yr Angenfilod a fydd yn llawn hwyl bwganllyd i’r holl angenfilod yn eich teulu, ac mae AM DDIM!
Mae’r dathliadau, a gynhelir mewn sawl lleoliad yng nghanol y ddinas, yn dechrau am 11am ac yn para tan 4pm. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
- Adloniant llwyfan – gyda pherfformiadau gan gantorion, a dawnswyr lleol a mwy.
- Fflachgriwiau – dewch i ddawnsio i rythmau bwystfilaidd Dawns yr Angenfilod. Bydd yn siŵr o ddifyrru pawb yn Abertawe!
- Cuddio a chwilio – casglwch eich cliwiau a chwiliwch am yr angenfilod sy’n cuddio yng nghanol y ddinas. Gallech ennill gwobr!
- Amser stori bwganllyd – dewch ar Drên Bwganod Nos Galan Gaeaf, a fydd wedi parcio ar Stryd Rhydychen, i glywed straeon arswyd yn cael eu hadrodd mewn ffordd fywiog.
- Gweddnewid i Anghenfil – cyfle i gael eich wynebau wedi’u paentio a dod yn anghenfil go iawn!
- Bwth lluniau angenfilod – gwnewch ystum a chwyrnu at y camera yn y bwth lluniau dros dro. Mae angenfilod yn mwynhau hunlun hefyd!
Gyda chymaint o hwyl angenfilaidd â hyn, a llawer mwy, fyddwch chi ddim am golli Ysbrydion yn y Ddinas!
Diwrnod Gŵyl Calan Gaeaf i’r Teulu

Efallai na fydd ysbrydion yn yr oriel, ond os ydych yn galw heibio’r Glynn Vivian ddydd Mercher 30 Hydref rhwng 12pm a 4pm, cewch ddigon o hwyl bwganllyd!
Gallwch wneud eich gwisg Calan Gaeaf eich hun gan ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu. Profwch y pethau rydych yn eu creu yn yr ystafell rafio uwch-fioled, cyn gwneud rhai symudiadau bwystfilaidd yn nisgo’r angenfilod, lle bydd gemau parti, cerddoriaeth a mwy.
Trên Bwganod Nos Galan Gaeaf

Mae’r Trên Bwganod yn dychwelyd dros galan gaeaf i deithio ar hyd Prom Abertawe am noson a fydd yn llawn dychryn a difyrrwch! Ond gwyliwch – efallai y daw pob math o ysbrydion ac ellyllon allan i chwarae wrth i chi fynd heibio’r fynwent fwganllyd…
Ddydd Mercher 30 a dydd Iau 31 Hydref, bydd cyfle i chi fynd ar taith ddifyr, fwganllyd wrth i Drên Bach y Bae gael ei drawsnewid yn Drên Bwganod Nos Galan Gaeaf. Bydd yn gadael Gerddi Southend am 4.45pm, 5.30pm, 6.15pm a 7pm.
Castell Bwganllyd Ystumllwynarth

Gan droedio’n ofalus, yn eich gwisg fwyaf arswydus, gallwch lywio’ch ffordd drwy gromgelloedd a choridorau hynafol Castell Ystumllwynarth o’r 12fed ganrif – beth sydd oddi tanoch neu’n aros amdanoch o amgylch pob cornel? Gyda’r goleuadau wedi’u diffodd, pwy â ŵyr pa fath o ysbrydion annymunol neu gymeriadau bwganllyd y gallech gwrdd â nhw? Ydych chi’n ddigon dewr i ddarganfod hyn?
Mae’r hwyl bwganllyd yn dechrau am 5.30pm, 7pm neu 8.30pm nos Fercher 30 a nos Iau 31 Hydref. Ewch i mewn os ydych yn ddigon dewr!
Rhagor o hwyl hanner tymor…
Os nad oes gennych ddiddordeb mewn angenfilod, ellyllon ac ysbrydion, mae digon o hwyl i’w chael hefyd yn ystod hanner tymor na fydd yn eich dychryn! Cymerwch gip ar ein rhestr lawn o weithgareddau’r gwyliau.