Siop Sgiliau 18 ac 19 Awst | Pabell Fawr ar Ffordd y Dywysoges yn Abertawe Mae ein Siop Sgiliau yn gyfle i chi ddysgu sgil bwytho newydd mewn gwers ddwy awr gyda thiwtor talentog am ddim. Ni chodir tâl am y wers na'r deunyddiau a bydd y tiwtor yn arwain tri dysgwr drwy'r broses gyfan am ddwy awr. … [Read more...] about Siop Sgiliau
teulu
Paratowch am rywbeth cwbl wahanol
Ein harddangosfeydd yw conglfaen Gŵyl Bwytho Abertawe lle mae doniau'n pwythwyr lleol ar gael i bawb eu gweld. Roedd y grwpiau lleol, megis Swansea Quilters, Baywood Quilters, Grŵp Tecstilau Itchyfingers, Stitches Coven, Wednesday Stitchers, Grŵp Brodwaith a Thecstilau Abertawe (Urdd Brodwyr … [Read more...] about Paratowch am rywbeth cwbl wahanol
Mwy o rannau’n dod ynghyd…
Bydd y dosbarthiadau meistr yn rhan allweddol o'r ŵyl, felly rydym wedi dod â rhai o'r tiwtoriaid gorau ym maes tecstilau i Amgueddfa Abertawe, bob dydd rhwng 10 a 24 Awst. Bydd y dosbarthiadau rhwng 10am a 4pm, yn costio £30 y diwrnod a byddwch yn sicr o dreulio diwrnod arbennig yn dysgu sgiliau … [Read more...] about Mwy o rannau’n dod ynghyd…
Prosiectau pwytho newydd yn ehangu’r Ŵyl
Dim ond ychydig wythnosau sydd ar ôl tan yr ŵyl, gydag arddangosfeydd, dosbarthiadau meistr a'r Siop Sgiliau hynod boblogaidd yn aros. Rydym hefyd yn ehangu ac yn cyflwyno elfennau ychwanegol a newydd i'n digwyddiad. Newydd - Siop Sgiliau i Blant Mae gennym wyth … [Read more...] about Prosiectau pwytho newydd yn ehangu’r Ŵyl
Sioe Cerbydau Clasurol Abertawe 2018
Sul y Tadau gwych yng nghanol dinas Abertawe. Cynhelir Sioe Cerbydau Clasurol Abertawe yng nghanol dinas Abertawe ddydd Sul 17 Mehefin 2018 rhwng 10.30am a 4pm. Mae BID Abertawe’n gyffrous i gyflwyno digwyddiad am ddim newydd i ganol dinas Abertawe ar gyfer 2018. Bydd y digwyddiad newydd, Sioe … [Read more...] about Sioe Cerbydau Clasurol Abertawe 2018
Atyniadau’r ddinas yn llwyddo i ddifyrru ymwelwyr
Gall ymwelwyr ag Abertawe fod yn siŵr o gael diwrnod llawn hwyl, yn ôl teithwyr eraill sydd wedi bod yma. Mae lledaenu'r gair yn ffordd wych o ddylanwadu ar bobl ac mae sawl un o'r lleoliadau diwylliannol gorau yn y ddinas wedi ennill Tystysgrif Rhagoriaeth nodedig TripAdvisor oherwydd bod pobl … [Read more...] about Atyniadau’r ddinas yn llwyddo i ddifyrru ymwelwyr
Hwyl Hanner Tymor mis Mai…
Cewch gyfle i gwrdd â swricatiaid, corynnod, nadroedd a madfall enfawr yn ystod hanner tymor yn Abertawe. Yr wythnos hon, bydd Plantasia, sef tŷ gwydr trofannol y ddinas, yn croesawu dau anifail blewog newydd, sef y swricatiaid Onsie a Joe, a fydd yn ymgartrefu yn y Parth Anial dros yr hanner … [Read more...] about Hwyl Hanner Tymor mis Mai…
Yn dod i’r Castell…
Bydd Castell Ystumllwynarth yn rhannu hen jôcs a rhai newydd wrth i gellweiriwyr ifanc reoli'r atyniad arbennig. Bydd y teulu cyfan yn cael y cyfle i ddysgu sgiliau syrcas go iawn yn y digwyddiad ddydd Sadwrn ar gyfer Gŵyl y Banc Calan Mai. Hwn fydd digwyddiad cyntaf tymor yr haf a bydd yn llawn … [Read more...] about Yn dod i’r Castell…
Trychfilod, crocodeilod a deinosoriaid!
Bydd ychwanegiadau newydd yn dod i Plantasia ac yn creu cyffro dros wyliau'r Pasg. Dau gaiman sbectolog a macaw o'r enw Freddie yw rhai o'r cymeriadau lliwgar hyn, y byddai'n rhaid i chi deithio filoedd o filltiroedd i ffwrdd i weld y fath gasgliad o anifeiliaid yn y cnawd fel arall. Yn … [Read more...] about Trychfilod, crocodeilod a deinosoriaid!
Mae Castell Ystumllwynarth yn agor ei ddrysau ar gyfer tymor newydd
Bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i Gastell Ystumllwynarth yn Abertawe wrth iddo agor ei ddrysau ar gyfer tymor 2018. Cyngor Abertawe a Chyfeillion Castell Ystumllwynarth sy'n cynnal yr atyniad, sy'n edrych dros y Mwmbwls a Bae Abertawe, a bydd ar agor rhwng 11am a 5pm bob dydd o ddydd Sul 1 … [Read more...] about Mae Castell Ystumllwynarth yn agor ei ddrysau ar gyfer tymor newydd