Canol Dinas Abertawe yw’r lle i fod y Nadolig hwn!
Byddwch yn siŵr o deimlo hwyl yr ŵyl pan fydd Marchnad Nadolig Abertawe’n agor ddydd Iau 16 Tachwedd. Bydd Siôn yn ei grotto ar Stryd Portland ddydd Sadwrn 17 Tachwedd a chynhelir digwyddiad cynnau goleuadau’r Nadolig nos Sul 18 Tachwedd. Bydd y siopau’n llawn anrhegion ac addurniadau Nadolig ac wrth gwrs, ni fyddai Nadolig yn Abertawe’n gyflawn heb sawl taith siopa i farchnad enwog Abertawe.
Marchnadoedd Nadolig
Ymwelwch â’r crefftwyr talentog, y masnachwyr a’r masnachwyr bwyd stryd niferus sy’n cynnig amrywiaeth o anrhegion unigryw, trîts dengar ac addurniadau hardd ym Marchnad Nadolig Abertawe os rydych am gael rhywbeth arbennig i’r Nadolig eleni o 16 Tachwedd!
Marchnad Abertawe
Cewch groeso cynnes ym Marchnad Abertawe a gallwch fwynhau awyrgylch yr ŵyl a phrynu’r bwyd mwyaf blasus a ffres ar gyfer eich gwledd Nadoligaidd.
Siopa Nadolig yng Nghanol y Ddinas
Abertawe yw eich siop dan yr unto y Nadolig hwn ar gyfer addurniadau ac anrhegion!
Joio Groto Siôn Corn
Dathlwch y Nadolig trwy ymweld â Groto Siôn Corn. Bydd y dyn yn y siwt goch yn ei gaban lliwgar ar Stryd Portland bob dydd, rhwng 17 Tachwedd a 23 Rhagfyr, er mwyn gwrando ar ddymuniadau plant ac i ledaenu hwyl yr ŵyl!
Dwylo’n llawn bagiau siopa?
Cofiwch y loceri cyfleus sydd ar gael yn Llogi Cyfarpar Symudedd, Gorsaf Fysus Abertawe, lle gallwch adael eich bagiau mewn lle diogel wrth i chi barhau i siopa neu gael seibiant.
Prisau o £2. Ffoniwch 01792 461785 i gael mwy o fanylion.