Mae'r ap SAGC16 swyddogol, sydd bellach ar gael ar iPhone yn ogystal â ffonau Android a Windows, yn cynnwys y newyddion diweddaraf, gwybodaeth am arddangosiadau awyr a thir, dolenni i westai a manylion am fwytai a digwyddiadau eraill yn Abertawe. Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi ymuno â nifer o … [Read more...] about Lansio ap newydd ar gyfer Sioe Awyr Genedlaethol Cymru
Blog Joio Bae Abertawe
Joio Bae Abertawe’r haf hwn: Y lle ar gyfer chwaraeon
Mae Abertawe'n ddinas sy'n dwlu ar chwaraeon. P'un ai'n bêl-droed yr Uwch-gynghrair, yn rygbi Ewropeaidd, yn rasys arobryn neu'n ymgynnull o flaen y Sgrîn Fawr i gefnogi timau cenedlaethol. Mae'n ddinas chwaraeon sy'n ffynnu a lle bynnag rydych chi'n mynd, mae rhywbeth yn cael ei daflu, ei ddal neu … [Read more...] about Joio Bae Abertawe’r haf hwn: Y lle ar gyfer chwaraeon
Abertawe’r haf hwn: Y lle ar gyfer cerddoriaeth
Yng Nghymru, rydyn ni'n enwog am ein cariad at gerddoriaeth a does dim man lle mae hyn yn fwy gwir nag yn Abertawe. Bydd sêr byd-eang yn perfformio mewn rhai o'n lleoliadau penigamp a llawn awyrgylch yr haf hwn, sy'n siŵr o'i gwneud hi'n flwyddyn fythgofiadwy. Ond mae mwy na hynny – … [Read more...] about Abertawe’r haf hwn: Y lle ar gyfer cerddoriaeth
Noson agored hwyl a ffitrwydd
Dewch i gadw’n heini gydag Abertawe Actif ac ymunwch â ni yng Nghanolfan Hamdden Treforys am ein noson agored am ddim nos Fercher 18 Mai, rhwng 3.30pm a 7.30pm Cewch wiriadau iechyd, cyngor ar faeth ac arddangosiadau coginio AM DDIM a phrofi’r hyn sydd gan Ganolfan Hamdden Treforys i’w gynnig … [Read more...] about Noson agored hwyl a ffitrwydd
GWISGWCH EICH ESGIDIAU RHOLIO…MAE’N AMSER GŴYL
Efallai fod rampiau, rheiliau a phibellau chwarter yn swnio fel pethau o lawlyfr plymwr. Ond mewn gwirionedd maen nhw'n enwau cyfarpar stryd mwyaf poblogaidd y byd sglefrio a byddant ar gael i'w gweld yn Sgwâr y Castell ddydd Sadwrn 21 Mai ar gyfer trydedd Ŵyl Stryd, Sglefrio a Champau ein … [Read more...] about GWISGWCH EICH ESGIDIAU RHOLIO…MAE’N AMSER GŴYL
Cyhoeddiad cerddorol cyffrous!
NOEL GALLAGHER AR FRIG Y RHESTR O BERFFORMWYR GWYCH YM MHARC SINGLETON, ABERTAWE Bydd un o'r artistiaid mwyaf poblogaidd ym myd cerddoriaeth dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, Noel Gallagher, yn dod â'i ganeuon a ddiffiniodd ei genhedlaeth, a'i fand, yr High Flying Birds, i Barc Singleton, Abertawe nos … [Read more...] about Cyhoeddiad cerddorol cyffrous!
Tîm Raven i ymddangos yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru
Tîm Raven i ymddangos yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru Bydd peilotiaid lleol, anturus yn esgyn i'r awyr uwchben Bae Abertawe i ddifyrru miloedd o bobl yr haf hwn. Mae Cyngor Abertawe bellach wedi cadarnhau y bydd Tîm Raven yn cymryd rhan yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru a gynhelir ar benwythnos … [Read more...] about Tîm Raven i ymddangos yn Sioe Awyr Genedlaethol Cymru
Atyniad golff-troed newydd yn Abertawe
Mae atyniad taro a phytio Heol Ashleigh bellach yn cael ei drawsnewid yn atyniad golff-troed a fydd yn agor ddechrau mis Mai. Mae golff-troed yn gyfuniad o bêl-droed a golff, lle mae cyfranogwyr yn defnyddio pêl-droed i anelu at dyllau mawr ar y cwrs. Swansea FootGolf fydd yn rheoli'r atyniad … [Read more...] about Atyniad golff-troed newydd yn Abertawe
GERDDI CLUN YN EU BLODAU
Bydd Gerddi Clun yn fôr o liw'r mis nesaf gyda chyfres o berfformiadau cerddorol byw, teithiau tywys a gwerthiant planhigion prin. Disgwylir y bydd miloedd o ymwelwyr yn dod i fwynhau'r gerddi trwy fis Mai unwaith eto yn ystod gŵyl flynyddol Gerddi Clun yn eu Blodau. Mae mis Mai yn nodi'r adeg … [Read more...] about GERDDI CLUN YN EU BLODAU
Dewch i weld lleoliadau enwog Abertawe fel erioed o’r blaen!
The Grand Theatre Swansea - 360 degrees - View 2 - Spherical Image - RICOH THETA Oherwydd technoleg newydd sgleiniog, gallwch bellach fynd ar daith rithwir o rai o hoff atyniadau teuluoedd yn Abertawe, fel Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas a mwy gyda'r lluniau rhyngweithiol, 360 … [Read more...] about Dewch i weld lleoliadau enwog Abertawe fel erioed o’r blaen!